Rhagfyr 7fed, Celfyddydau Span, Waun y Dref, Arberth 10.00 am-4pm
Bydd Map Digi Penfro , prosiect ‘mapio dwfn’ Sir Benfro yn dychwelyd am ddiwrnod arall o fapio cymunedol ar Ragfyr 7fed yn Arberth. Dyma gyfle i rannu straeon a gwybodaeth am Arberth gyda’r bwriad o gofnodi gwybodaeth ar fap arlein er mwyn creu ‘map dwfn’ o’r dref a’r cyffiniau.
https://deep-map.azurewebsites.net/
Mae’r term ’map dwfn’ yn cyfeirio at arfer sydd â pherthnasedd arbennig i Sir Benfro. Yn ystod gwanwyn 2002 cerddodd yr artist a chyfarwyddwr theatr Cliff McLucas (1945-2002) Llwybr Arfordir Sir Benfro ar ei hyd gyda’r bwriad o greu Map Dwfn, yn cyfuno tirluniau gyda chyfryngau eraill yn cynnwys testun, dyddiadur, recordiadau sain a delweddau symudol ar fap aml-haen.
Anogir pawb sy’n mynychu’r diwrnod yn Arberth i ddod ag eitemau megis dogfennau, ffotograffau a gwrthrychau sydd, efallai, yn cynnwys gwybodaeth am Arberth ar hyd yr oesoedd, yn ogystal â nhw eu hunain a straeon sydd ganddynt i’w hadrodd. Mewn paratoad ar gyfer y diwrnod mae Span Digidol wedi sicrhau cymorth aelodau eu Clwb Digi sydd wedi’u hyfforddi mewn technegau recordio digidol, ffotograffiaeth a sut i lwytho deunyddiau i fyny i’r map.
Yn ôl maniffesto mapio McLucas “Bydd mapiau dwfn yn dod â’r amatur a’r proffesiynnol, yr artist a’r gwyddonydd, y swyddogol a’r answyddogol, y cenedlaethol a’r lleol i gyd at ei gilydd”. Bydd y tywysydd a storïwr Andrew Dugmore, yn ogystal ag arbenigwyr eraill, yn ymuno â thîm Span Digidol yn eu canolfan yn Arberth er mwyn rhannu eu gwybodaeth a chyfrannu at y map.
Dyma beth oedd gan rhai o gyfrannogwyr gweithdy mapio peilot Span Digidol ar Garn Fawr yn ystod haf 2019 i’w ddweud am y project:
“Dyna syniad da! Bydd y sir gyfan yn cymryd rhan mewn prosiectau unigol lleol fel ‘dw i’n ei deall hi. Er mwyn mynd i’r afael, mae’n debyg, â lleddfu unigedd mewn cymuned sydd wedi’u hynysu’n barod.”
“Mae hwn yn lle syfrdanol yn barod ond mae’r profiad hwn wedi taflu goleuni pellach arno ac wedi peri i mi barhau i feddwl amdano am amser hir ar ôl f’ymweliad.”
“ Yn fy marn i mae hwn yn syniad gwych. Bydd yn caniatau i bobl weld hanes gwahanol ardaloedd ar lefel mwy personol ac i ddarganfod mwy am deulu a ffrindiau. Mae hefyd yn hygyrch i bawb.”
Mae Map Digi Penfro’n gweithio gyda John Ewart o gynlllun DATRIS (Digital Assets and Training for Rural Innovative Solutions) PLANED, Alan Cameron Wills, rhaglenydd, a Geraint Skeates- Pencampwr Digidol Span a myfyriwr cyfrifiadureg yng Ngholeg Sir Benfro. Bydd pob un ar gael i helpu cyfrannogwyr yn y gweithdy i lwytho i fyny deunyddiau a gasglwyd trwy ffotograffau digidol, recordiadau sain a ffilmio i’r map.
Datblygwyd Map Digi Penfro drwy brosiect Span Digidol sydd yn cael ei ariannu gan LEADER a Chyngor Celfyddydau Cymru ac sydd yn archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg ddigidol men modd creadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac arwahaniad cymdeithasol.
Bydd y sessiwn yn rhedeg o 10am-4pm
Amserlen y dydd
10yb Cyflwyniad i’r map
11yb Taith Tywys o gwmpas Arberth gyda Storïwr Andrew Dugmore
3yh Cyd-destun Mapio Dwfn cyflwyniad anffurfiol gan Addysgwr Celf Iain Biggs
Archebwch drwy wefan Span lle cyhoeddir manylion llawn yn fuan.