Wedi’i ffurfio ym 1987 gan eu Cyfarwyddwr Cerddorol Carol Pemberton MBE, mae Black Voices wedi ennill clod fel pumawd a cappella merched gorau Ewrop. Ers dros 25 mlynedd mae’r ensemble wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’u canu a pherfformiadau yn nhraddoddiad llafar du – ffurf o gerddoriaeth gynnar wedi’i seilio ar lên gwerin a chwedleua hynafol Affrica a’r gwasgariad sydd wedi effeithio ar ddatblygiad cerddoriaeth glasurol a genres mwy diweddar megis canu’r felan a jazz. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r traddodiad cyfoethog hwnnw mae Black Voices wedi datblygu repertoire a threfniannau unigryw o ganeuon ysbrydol, caneuon gwerin traddodiadol o Affrica, y Caribî a Lloegr, jazz, gospel, pop a reggae yn ogystal â chyfuniad o arddulliau cyfoes a chlasurol sydd wedi ennill iddynt gydnabyddiaeth fyd-eang fel cwmni perfformio a dysgu. Mae Black Voices yn ei hystyried yn fraint eu bod wedi cael eu dewis i berfformio o flaen aelodau’r teulu Brenhinol Prydeinig yn y DU a thramor. Ym 1988 perfformiodd yr ensemble mewn cyngerdd awyr-agored ar gyfer y Pab Ioan Pawl II yn Loreto, Yr Eidal, ac yn 1996 o flaen y cyn Arlywydd Nelson Mandela yng Nghyngerdd y Ddwy Genedl yn Neuadd Albert. Yn teithio’r byd gyda’u sain nodweddiadol, harmonïau a phresenoldeb syfrdanol ar lwyfannau maen nhw wedi ymddangos hefyd gyda rhai o fawrion y diwydiant cerddorol gan gynnwys Nina Simone, Miriam Makeba, Ray Charles, Hugh Masekela, a Take 6. Rydym yn gyffrous iawn i roi sylw penodol i ddigwyddiad a recordiwyd yn arbennig a’i ffrydio’n fyw gyda’r ensemble yn dod yn ôl at ei gilydd mewn dathliad olaf ar ddiwedd mis Hanes Pobl Dduon.