Rhaglen gelfyddydol arlein gan gadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau ynysiad ac unigrwydd, lleddfu gofidiau, straen a diflastod, ac adeiladau rhwydweithiau cymdeithasol yn Sir Benfro ar adeg COVID-19.
Mae’r rhaglen wedi bod o gymorth i Span i ymateb i’r argyfwng ac adeiladu’n gwydnwch. Datblygwyd y rhaglen yn unol â’n gweledigaeth o Gelf ar gyfer newid cymdeithasol yng Nghymru wledig ac i fanteisio ar rym celf i wneud i bobl deimlo’n well.
Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2020 cyflawnodd Span rhaglen gynhwysol a chyrhaeddbell ar gyfer pobl Sir Benfro gan gyrraedd 9,000 o bobl yn y sir a thu hwnt, yn cyflwyno’r celfyddydau gyda gweithdai creadigol ar-lein a pherfformiadau theatr gymunedol wedi’u ffrydio’n fyw.