Prosiect dwy flynedd wedi’i ariannu gan Leader a Chyngor Celfyddydau Cymru oedd SPAN Digidol. Cafodd ei gynllunio i ymledu diwylliant ar draws Sir Benfro trwy ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i gymunedau gwledig trwy dechnoleg ddigidol.
Cyrhaeddodd y prosiect dros 2,00 o gynulleidfaoedd byw a dros 27,000 o gynulleidfaoedd digidol ledled y sir a thu hwnt gyda chynrychiolaeth o bobl o bob oed.
Trwy raglen arloesol o 10 prosiect peilot cysylltodd Span â rhai o’r bobl fwyaf bregus, neu’n draddodiadol/ystrydebol llai hyderus/medrus yn ddigidol trwy brosiectau megis Map Digi Penfro, Cofio, Cân Sing ar-lein, Theatr Soffa, e-docynnau a chynulleidfaoedd Cyngerdd yr Adfent yng Nghapel Pisga. Cyflawnwyd rhai o’r rhain mewn cydweithrediad â Menter Iaith Sir Benfro a Chered.
Roedd y prosiect hefyd o gymorth i SPAN addasu’n gyflym i’r argyfwng COVID ac i fedru cyfrannu i’r ymateb cymunedol yn Sir Benfro trwy ddarparu rhaglen ar-lein ar gyfer y cyfnod clo 3 mis gan wasanaethu’r gymuned â phrofiad celfyddydol ar-lein i leddfu diflastod, straen ac unigrwydd ac i wella lles pobl.
Roedd pobl yn dweud bod eu hiechyd a’u llesiant yn well o ganlyniad i gymryd rhan mewn prosiectau gan ddangos fod cyfranogaeth mewn gweithgareddau celf yn ffactor i achosi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol.
Llwyddodd SPAN Digidol i gefnogi achos y rhaglen gynhwysiad digidol yn Sir Benfro ac i ddiogelu’r elusen at y dyfodol o ganlyniad i’r canlynol:
Lleihau ynysiad a chynnwys cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol a datblygiad sgiliau.
Roedd cyfranogwyr yn dweud fod cynnydd yn eu sgiliau, teimladau cadarnhaol, llesiant a hyder ar draws amrywiaeth o brosiectau gwahanol, dangosyddion ac adroddiadau gwerthuso.
Adeiladu corff o astudiaethau achos unigol a gasglwyd yn ogystal â llawer o dystiolaeth ac adborth sy’n adrodd hanesion unigol o ymgysylltiad a’r effaith ar fuddiolwyr.
Gwnaeth Span yn siŵr o fuddsoddi ychwanegol
Galluogi SPAN i addasu’n gyflym i weithio o bell ac ar-lein yn ystod y Pandemig Coronafirws gan arwain at fedru cynnal darpariaeth celfyddydau creadigol ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar yr adeg hynod dyngedfennol yma.
Galluogi SPAN i fuddsoddi yn ei isadeiledd technegol, staff, ymddiriedolwyr a sgiliau.
Codi proffil y sefydliad gan gyfrannu at ddeall fod gan y celfyddydau rôl allweddol i’w chwarae ym maes cynhwysiad digidol yng Nghymru.