Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd

Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd / Song of the Golden Road Listening Party 

Tafarn Sinc, 6ed Tachwedd 2021 

Gallwch wrando i’r faled gyfan yma!

Ar ôl haf o sgyrsiau a theithiau cerdded llawn gwybodaeth yn ardal y Preselau, mae’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road yn barod o’r diwedd ar gyfer ei darllediad cyhoeddus cyntaf.  Bydd y rhaglen radio dwyieithog ar-lein, awr o hyd, hon yn cael ei lansio yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. 

Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun.  Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun- dyma’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt.  Roedd y sesiynau hyn yn dilyn y gwahanol themâu o neolithig, amaeth, addysg, crefydd a diwydiant ac roedd yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, wrth ddarganfod a chwilota i’r ‘pethe’ sy’n bwysig i bobl am y lle.  

Dywedodd Sophie Jenkins, sydd wedi  gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a’r Gymuned gyda’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin am y tair blynedd diwethaf, hyn am y gweithdai: “Un o’r pethau dwi wedi mwynhau fwyaf am y gweithdai yw’r cyfleoedd i ail-ymweld ag elfennau gwirioneddol unigryw ein treftadaeth a’n diwylliant yn ardal Preseli a’r holl haenau hynny sy’n gorgyffwrdd ac yn adeiladu llun o’r lle, o’r ymdeimlad hwnnw o le ac o fyw mewn ardal.”  

Roedd teithiau cerdded y gweithdai yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr gwadd, cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau. Mae’r faled yn cynnwys lleisiau’r rhai a gyfrannodd sgyrsiau i weithdai’r prosiect gan gynnwys yr haneswyr Martin Johnes, Hefin Wyn a Hedydd Hughes, ynghyd â sgyrsiau cyfranogwyr y gweithdy mewn ymateb i’r sgyrsiau a gynhaliwyd ar y teithiau cerdded ac yn gysylltiedig â’r daith gerdded olaf ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun.  Casglwyd deunydd arall trwy gyfarfod â grŵp hanes lleol Bwlch Y Groes a hwyluswyd gan Hedd Harries sy’n aelod o’r grŵp a hefyd yn gweithio fel gweinyddwr ar y prosiect Ein Cymdogaeth Werin.  Mae’r faled hefyd yn cynnwys cyfweliadau a gynhaliwyd gan Huw Jones gyda ffermwyr lleol a gweithwyr tir trwy brosiect ynni adnewyddadwy Cwm Arian, ‘Growing Better Connections’. 

Dilynodd y crwydradau yma gan benwythnos dwys o gerddora dan arweiniad y cyfansoddwr a cherddor Stacey Blythe pan wahoddwyd cyfranogwyr i roi llais i ganeuon y lle.  Fel y nododd drymiwr a chyfranogwr y prosiect Shelley Morris, “Fe roddodd hyder i mi greu, i greu mwy o bethau am y Preselau, i greu mwy o gelf, mwy o gerddoriaeth, mwy o farddoniaeth. Roedd yn ysbrydoledig iawn i mi. ”  Carolyn Waters, “Pan ymunais â’r prosiect, y prif beth yn fy meddwl oedd y gerddoriaeth ond rwyf wedi mwynhau’r cyfan yn fawr, gan ddysgu am yr ardal ac yna yn enwedig y daith gerdded ar y ffordd euraidd, Foel Drygarn i Foel Cwm Cerwyn, anhygoel, gwych – teimlad da.”  Mae llais, sain a chân wedi eu hymgorffori i’r faled radio derfynol i greu cofnod llafar o le unigryw, un y bydd y cenedlaethau i ddod yn gallu ei werthfawrogi a’i fwynhau am flynyddoedd yn y dyfodol. 

Dywedodd cynhyrchydd y faled Paul Evans, cyn-gynhyrchydd gyda’r BBC, hyn am y prosiect, “Mae fy ngwreiddiau ym Mynachlog Ddu ac rydw i wir yn cysylltu â’r ardal hon.  Mae’n hyfryd dod yn ôl i ddysgu am yr ardal – y pethau a ddywedwyd wrthym gan ein neiniau a’n teidiau ond na chymerasom unrhyw sylw ar y pryd – rwyf wedi bod yn dod i’r ardal hon ers 64 mlynedd. 64 mlynedd yn ôl gallem fod wedi gwneud y rhaglen hon a byddai’n hollol wahanol. Fe allech chi wneud hyn bob deng mlynedd a bydd fel capsiwl amser i amser a lle – mae’n dangos sut mae cymuned yn tyfu ac yn newid”

Daeth elfennau cyfranogol y prosiect i ben gyda digwyddiad Côr Unnos yn Rhosygilwen ar 3 Hydref pan ddaeth côr ynghyd i ddysgu a recordio ‘Y Tangnefeddwyr’, gosodiad o gerdd Waldo Williams gan y cyfansoddwr Eric Jones. Dywedodd arweinydd y côr, Margaret Daniel, am y digwyddiad, “Dewis perffaith o eiriau a cherddoriaeth ar gyfer rhaglen fel hon.” 

Gwahoddir yn gynnes y rhai sydd wedi cyfrannu at greu’r gwaith ac unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i wrando.  Bydd y gantores a cherddor Stacey Blythe yn ymuno â ni eto a  hi fydd yn cychwyn y noson gyda set o ganeuon gwerin lleol i Sir Benfro. Bydd y Faled ei hun yn cael ei darlledu yn y dafarn o 8yh pan gewch eich gwahodd i gasglu o amgylch y tân fel yn y dyddiau gynt i wrando ar straeon a chaneuon y Ffordd Euraidd. 

Os na allwch  ymuno ar y noson bydd y faled hefyd ar gael o 8yh trwy blatfform AM Cymru https://amam.cymru/spanarts 

Gellir cael copïau CD o’r faled lawn o swyddfeydd Span Arts (The Towns Moor, Moorfield Rd, Arberth SA67 7AG). Cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk neu ffoniwch 1834 869323 i archebu eich copi.

Mae Cân y Ffordd Euraidd wedi cyflawni gan Gelfyddydau Span a Rowan O’Neill mewn partneriaeth gyda PLANED fel rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Scroll to Top