Ymunwch â’n tîm!

Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol

 

Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol brwdfrydig a chyfeillgar.

Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol, yn barod i fynd allan i’r gymuned i ymgysylltu â phobl leol. Fel rhan o’n tîm bach ond pwerus byddwch yn gweithio gyda’n Cynhyrchydd Cymunedol a’n gwirfoddolwyr i gyflwyno rhaglen greadigol o ymgysylltu a pherfformiad ar gyfer pobl Sir Benfro a gorllewin Cymru.

Elusen celfyddydau cymunedol yw Celfyddydau Span, wedi’i lleoli yn Arberth. Rydym yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yn Sir Benfro – i ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol ac yn ceisio herio canfyddiadau o’r hyn y gall cymunedau gwledig ei wneud a’r hyn y gallant ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda’i gilydd. 

Oriau gwaith: 21 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis

Tâl: £21,560 y flwyddyn (FTE)  

Tâl Pro rata: £12,936 (yn seiliedig ar 21 awr yr wythnos)

Dyddiad Cau: 9yb, Dydd Mawrth 31ain o Fai 2022

Nodwch os gwelwch yn dda na fyddwn yn derbyn CVs. I wneud cais, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod:

Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a Chymunedol 2022

Mae yna fersiwn print bras ar gael yma hefyd: Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a Chymunedol 2022 PRINT BRAS

Anfonwch eich ceisiadau i finance@span-arts-dev.co.uk.

Mae hwn yn gontract tymor penodol a gefnogir gan arian Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Gobeithiwn pe bai cyllid yn cael ei sicrhau y caiff ei ymestyn ac yn y pen draw ddod yn swydd barhaol fel rhan o dîm craidd SPAN Arts.

Mae Span Arts yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Byddwch cystal â rhoi gwybod i ni os oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau yn ystod y broses ymgeisio neu recriwtio a byddwn yn hapus i’ch cefnogi. Gallwch gysylltu â finance@span-arts-dev.co.uk.

Scroll to Top