Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé: seinio’r ffordd sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le.
Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.
Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.
Cynsail sylfaenol y prosiect hwn yw gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu fersiwn o’r gân hon neu unrhyw gân sydd o arwyddocâd penodol i’r cyfranwyr ac i thema’r prosiect ac i binio recordiad hwnnw i’n map ar-lein.
Rhowch eich cân ar y map! Dysgwch sut yma.
Bydd y prosiect Pererin Wyf yn dechrau ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai ar-lein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân.
Bydd y gweithdai yn dod i ben gyda thaith gyfnewid rhwng y siroedd cynnal Sir Benfro a Swydd Llwch Garmon yn ystod Gwanwyn 2023. Bydd y gweithdai’n cael eu cyflwyno’n hybrid gyda grŵp craidd yn cyfarfod wyneb yn wyneb yn Sir Benfro a Llwch Garmon, gydag eraill yn ymuno o bob cwr o’r byd trwy fideo gynadledda.
Bydd y gweithdai hyn yn arwain at fersiwn newydd o’r gân sy’n amlygu’r iaith Wyddeleg ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gyfoes o bererindod, cartref a dychwelyd.
Os oes gyda chi gysylltiad personol â Gogledd Sir Benfro neu Lwch Garmon ac os hoffech gymryd rhan yn y prosiect hwn, byddem wrth ein bodd i glywed gennych. E-bostiwch rowan@span-arts i ddarganfod mwy am sut y gallech chi fod yn rhan o’r prosiect.
Mae’r prosiect wedi cynllunio gan Rowan O’Neill a bydd y gwaith yn cael ei chyd-hwyluso gan gasglwyr caneuon a straeon digidol o artistiaid Gwyddelig wedi’u leoli yn Wexford, Rachel Uí Fhaoláin o Ceol Mo Chroí a John Ó Faoláin o Sianel Archif Traddodiadol, a’r technolegydd digidol o Orllewin Cymru Jacob Whittaker. Codio gan Alan Cameron Wills.
Cliciwch yma ar gyfer y geiriau Cymraeg i’r emyn Pererin Wyf
Cliciwch yma ar gyfer cyfieithiad Saesneg o’r emyn Pererin Wyf
Mae’r prosiect Pererin Wyf yn rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.