AMDANOM NI

Elusen gelfyddydau cymunedol egnïol yw Span, wedi’i lleoli yn Arberth gyda hanes 30 mlynedd o ddod â’r celfyddydau i Sir Benfro wledig.

Cawn ein hysgogi gan y gred graidd fod gan y celfyddydau’r gallu i wella ansawdd bywydau pobl gan weithredu i greu newid cymdeithasol yng ngorllewin Cymru.

Rhaglen amrywiol o safon uchel yn cynnwys cerddoriaeth, theatr, llais, dawns a digwyddiadau carnifal wedi’u cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Sir Benfro.

Mae rhai uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Cerddoriaeth fyw yn Neuadd y Frenhines, yn cynnwys perfformwyr megis Y Baghdaddies, Electric Swing Circus, Dabbla a mwy.
  • Gŵyl Llais A Cappella Arberth
  • Parêd Llusernau Afon Goleuadau

Rhaglen amrywiol ac egnïol o brosiectau o ansawdd uchel yn y celfyddydau a llesiant gan dorri cwys newydd ym myd y celfyddydau, iechyd a newid cymdeithasol.

Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys:

SPAN Digidol – Arbrawf dwy flynedd yn archwilio sut y gallwn gyrraedd cynulleidfa ehangach i’r celfyddydau trwy ddefnyddio technoleg yn greadigol.

Côr Pellennig- Prosiect Canu wedi ei ddatblygu mewn ymateb i’r cynnydd mewn unigrwydd hirfaith a dwys ymhlith pobl hŷn yn Sir Benfro

Côr Pawb – Côr cymunedol torfol i bontio’r cenedlaethau gydag aelodau rhwng 6 a 106 oed.

Rydym yn darparu cyfleoedd i ystod eang o bobl ennill sgiliau, profiad a chymryd rhan yn y gymuned. Gall hyn fod yn achubiaeth hanfodol i lawer o unigolion ynysig a/neu fregus sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

“Mae hygyrchedd a chynhwysiant yn eiriau ffasiynol ond yn anaml iawn y cânt eu gweithredu. Cefais groeso, doedd ’na ddim beirniadaeth ac roedd yn enghraifft wych o sut y gallai addysgu fod.” Lin Hill, gwirfoddolwraig yn y Prosiect Ceiswyr Lloches.

Ein huchelgais yw i’r celfyddydau yn Sir Benfro ysbrydoli a chysylltu pobl, lleoedd, a chymunedau gwledig yn greadigol.

Mae Celfyddydau Span yn ymroddedig i sicrhau fod pob un o’n gweithgareddau yn gynhwysol, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb.

Dewch i gwrdd â’r tîm

Beth Touhig Gimble 2

Bethan Touhig-Gamble: Hi/Hynt

b8212205-81e9-4d27-b0e0-ec0e4093c64a

Vicki Skeats: Hi/Hynt

_76B7507

Belinda Bean: Hi/Hynt

Di-2023

Di Ford: Hi/Hynt

bethan-cymrawg

Bethan Morgan: Hi/Hynt

cam-cymraeg

Samara van Rijswijk: Hi/Hynt/Nhw/Iddyn Nhw

Molara-cymraeg

Molara: Hi/Hynt

Cydweithwyr creadigol

EmilyLaurens

Emily Laurens

Lou portrait

Lou Luddington

Molara, Community Engagement Officer

Molara

P1310908

Rowan O’Neill

Anna 5

Anna Sherratt

Nia-1

Nia Lewis

Screenshot 2022-04-14 at 13.31.53

Hannah Rounding

2021-02-22 09.12.15

Jacob Whittaker

GemmaHeadshot

Gemma Green-Hope

Ceri ashe

Ceri Ashe

SAM_SPAN ARTS IMAGE

Sam Walton

billy 1

Billy Maxwell Taylor

Ymddiriedolwyr

Catherine Davies

Catherine Davies

Rhidian Evans

Rhidian Evans

Stuart-Berry-1-copy

Stuart D. Berry

uk shortlist (2)

Sue Lewis

Cary Mol (Board)

Carys Mol

Dea

Déa Neile-Hopton

Jonathan Chitty

Jonathan Chitty

SPAN Arts yw’n weithredol ac yn gyhoeddus yn erbyn hiliaeth, gwrthalluoldeb wrth anabledd, gwrthalluoldeb wrth lesbiaiddiaeth, a gwrthalluoldeb wrth drawsrywioldeb.

Mae’r egwyddor graidd anhygyrch hon yn llywio pwy rydym yn partneriaethu â hwy, pwy rydym yn ymgynghori â hwy am gefnogaeth, pwy rydym yn cyflogi, sut rydym yn gweithio, a phwy rydym yn gweithio gyda hwy.

Byddwn yn defnyddio’r celfyddydau, ein rhaglen, a’n safle, i alw am anghydraddoldeb a herio rhagfarn ar draws y sir.

SPAN yw sefydliad dwyieithog balch gyda staff Cymraeg, aelodau o’r bwrdd, gwirfoddolwyr, artistiaid, ac rhaglennu Cymraeg a Chymraeg ar ein gwefan.

Rydym yn deall pwysigrwydd a lle mae’r Iaith Gymraeg yn ei chael yn ein cymuned ac yn ein cynnig diwylliannol ein hunain.

Ein nod yw lleihau ein heffaith garbon trwy fuddsoddi mewn gwaith digidol a blaenoriaethu’r amgylchedd yn ein prosesau penderfynu.

Cyfeillion SPAN

Dwlu ar SPAN? Dewch yn gyfaill i ni!

Dewch yn Gyfaill i Gelfyddydau Span a chefnogi’r elusen er mwyn cadw’r celfyddydau’n fyw yn Sir Benfro. 

Am £20 y flwyddyn yn unig mae Cyfeillion SPAN yn gallu manteisio ar ostyngiad ar bris tocynnau, llyfrynnau gwybodaeth am ddim wedi’u postio i’ch cartref ac ar gynigion arbennig. Ond yn fwy na dim gallwch deimlo’n dda trwy wybod eich bod yn parhau i gyfrannu at ddiogelu’r sefydliad ac yn helpu i ddod â digwyddiadau diwylliannol i Sir Benfro.

Yn ogystal byddwch yn derbyn y manteision canlynol:

  • Teimlo’n dda o ganlyniad i wneud cyfraniad pwysig i’r celfyddydau yn Sir Benfro!
  • Derbyn gostyngiad ar bris tocynnau ar gyfer y rhan fwyaf o’r digwyddiadau a gynhelir gan SPAN(£2 fel arfer).
  • Anfonir llyfrynnau gwybodaeth am ddim i bob Cyfaill bob tymor.
  • Cyfle i archebu tocynnau hyd at wythnos ymlaen llaw.
  • Derbyn cynigion arbennig a bargeinion cyn neb arall.

Prisiau blynyddol Cyfeillion SPAN:

Oedolion: £20 y flwyddyn (yn cyfateb i £1.66 y mis)
Consesiwn: £17.50 y flwyddyn i rai sy’n derbyn pensiwn y wladwriaeth, budd-daliadau’r wladwraeth a myfyrwyr.

Aelodau â Hawliau Pleidleisio

Dewch yn Aelod o Span gyda Hawliau Pleidleisio a dweud eich dweud am ein dyfodol.

Mae SPAN yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant heb Gyfalaf Cyfranddaliadau. Mae gan y cwmni felly Aelodau sy’n gweithredu’n warantwyr i’r Elusen.

Yn unol ag Erthyglau Cymdeithasu Span gall unrhywun fod yn Aelod o Gelfyddydau Span cyn belled â’ch bod:

  • Dros 18 oed
  • Yn gwneud taliad o £1
  • Yn cytuno i weithredu fel gwarantwr i’r Elusen h.y. rydych yn cytuno i gyfrannu tuag at unrhyw ddyledion sydd gan SPAN. Cyfyngir hyn i £1
  • Yn derbyn sêl bendith i’ch cais gan FWRDD YMDDIRIEDOLWYR CELFYDDYDAU SPAN
  • Yn cadw at y Telerau ac Amodau* a welir isod
  • Fel aelod o’r elusen mae gennych yr hawl i bleidleisio ar faterion a godir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

BETH FYDDAF YN EI DDERBYN O GANLYNIAD?

Fel Aelod o Gelfyddydau SPAN mae gennych yr hawl :

  • I fynychu’r CCB a chyfarfodydd eraill
  • I bleidleisio i ethol aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
  • I fod yn wybodus am bob datblygiad sylweddol yn effeithio ar fusnes a gwasanaethau Celfyddydau Span.
  • I gael mynediad at Adroddiad Blynyddol Celfyddydau Span a’r Cyfrifon Diwedd Blwyddyn
  • I geisio cael eich ethol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

I wneud cais byddwch cystal â gwneud eich taliad untro o £1.

Os nad yw’ch cais yn llwyddiannus caiff y £1 ei hystyried yn rhodd i Span.

*TELERAU AC AMODAU

Cytunaf i fod yn warantwr yr Elusen ac i gyfrannu tuag at unrhyw ddyledion sydd gan SPAN. Cyfyngir y swm hwn i £1.

Cytunaf i’m henw ymddangos ar Gofrestr yr Aelodau.

Cytunaf i fod yn gyfrifol am gadw fy manylion yn gyfredol ac yn gywir.

Hanes byr

1986

Sefydlu Celfyddydau Cymunedol Taf a Cleddau

1986

1987

Ein Gŵyl Blant gyntaf (yn cynnwys perfformwyr megis No Fit State Circus)

1987

Circa 1990

Sicrhau ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru am y tro cyntaf

Circa 1990

1988

Newid ein henw i Rwydwaith Celfyddydau De Penfro

1988

2001

Dod yn gwmni cyfyngedig trwy warrant dan yr enw SPAN

2001

2004

Prosiect datblygu SPAN – Prosiect 3 blynedd yn mynd â’r celfyddydau i’r pentrefi

2004

2006

Prynu adeilad SPAN ar Waun y Dref, Arberth gyda chyllid o’r rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

2006

2008

Sefydlu Gŵyl Llais A Cappella Arberth

2008

2014

Lansio cenhadaeth ‘Arts for Everyone/Celfyddydau i Bawb’ SPAN.

2014

2015

Y Parêd Llusernau Afon Goleuadau cyntaf yn Hwlffordd mewn partneriaeth â Gofod i Greu

2015

2015

Sicrhau cyllid tair blynedd gan y Loteri Fawr ar gyfer Y Prosiect Llawen

2015

2018

Sicrhau cyllid amrywiol ar gyfer prosiectau i gyflawni nifer o agendâu newid cymdeithasol allweddol ar draws Sir Benfro.

2018

2019

 Mabwysiadu gweledigaeth newydd o Gelfyddydau ar Gyfer Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig

2019

2020

Pandemig COVID-19 – Gweithredu ar-lein yn unig

2020

2021

Addaswyd y rhaglen SPAN i anghenion y byd ar ôl covid, gan symud tuag at brosiectau sy’n archwilio’r berthynas rhwng y celfyddydau, iechyd, a lles.

2021

2022

 Croesawyd y cyfarwyddwr newydd Bethan Touhig-Gamble, cynhaliwyd digwyddiadau byw unwaith eto, a dechreuwyd broses cyd-greu newydd ar gyfer prosiectau SPAN, ar y cyd â’r gymuned

2022
Scroll to Top