Mae rhaglen newydd wedi’i chydgynllunio yn lansio at Celfyddydau SPAN

Rydym yn falch i gyhoeddi lansiad cyfres o brosiectau newydd wedi’u cydgynllunio gan roi lle canolog i leisiau’r gymuned. Yn dilyn 6 mis o sgyrsiau creadigol, mae’r prosiectau hyn yn nodi pennod gyffrous i SPAN wrth i ni gychwyn proses gyd-greu newydd ar y cyd â’r gymuned.

 

Chwedlau’r Normal Newydd / Tales from the New Normal:

Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Comic Relief, rydym yn cydweithio gyda’r actor a dramodydd Ceri Ashe (Bipolar Fi, Chwedlau’r Cyfnod Clo: Bara a Babanod) a’r Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Anna Sherratt (Rholiwch am Wellhad/Roll for Remission) i greu Chwedlau’r Normal Newydd / Tales from the New Normal : darn theatr ddwyieithog ar-lein, wedi ei arwain gan y gymuned, sy’n edrych ar realiti bywyd mewn byd wedi’r cyfnod clo. Caiff perfformiadau eu ffrydio’n fyw ar-lein ym mis Rhagfyr.

 

Comisiwn Gwobrau Partner Unlimited:

Ochr yn ochr â National Theatre Wales a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o ymuno â chomisiwn partner Unlimited am y tro cyntaf. Mae Unlimited yn comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl sy’n wrthryfelgar, radical, anturus, ysbrydoledig, a chwareus. Rydym yn awyddus i weithio gydag artist anabl sydd wedi ymgysylltu’n gymdeithasol i greu gwaith newydd sy’n meddu ar gyseiniant lleol yng Ngorllewin Cymru, a pherthnasedd byd-eang. Ewch i span-arts-dev.co.uk am fanylion ymgeisio.

I gael gwybod mwy, partner neu gymryd rhan cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk neu ffonio 01834 869 323.

Cofrestrwch i’n rhestr bostio yma i bod y cyntaf i wybod am brosiectau sydd ar y gweill.

Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Facebook | Instagram | Twitter

Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim:

Mae Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim yn brosiect celf cyfranogol traws-ffiniol newydd sy’n cysylltu cymunedau diasporas Cymreig a Gwyddelig yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Llwch Garmon (Wexford). Wedi ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein, nod y prosiect yw cysylltu cynulleidfaoedd lleol a byd-eang trwy gân a storïa. Fel rhan o bartneriaeth Cysylltiadau Hynafol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop rhwng Cyngor Sir Penfro a Sir Llwch Garmon, rydym yn gweithio gyda’r artist Rowan O’Neill a’r cyd-hwyluswyr Gwyddelig Rachel Uí Fhaoláin and John Ó Faoláin of Ceol moi Chroí, i gyflwyno’r prosiect Pererin Wyf.

 

Love Stories to Nature / Straeon Cariad at Natur:

Mae SPAN yn gwahodd y gymuned leol i gyd-greu briff artist agored ar gyfer cyfres newydd o gomisiynau Straeon Cariad at Natur/Love Stories to Nature. Gyda’r bwriad o ysgogi sgwrs, gweithredu, ac ymgysylltu â’r amgylchedd (boed hynny’r amgylchedd adeiledig, neu’r amgylchedd gwledig rydym yn byw ynddo neu’r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei brofi) bydd y comisiynau artist newydd a’r gwaith maen nhw’n ei greu yn cael eu llunio gan y gymuned.

 

SPAN Cyrraedd:

Yn cefnogi’r holl waith hwn mae rhaglen wirfoddoli greadigol newydd SPAN, sef SPAN Cyrraedd. Cefnogir y rhaglen gan gronfa wirfoddoli CGGC (WCVA) ac mae wedi ei strwythuro i gefnogi ymgysylltu’r rhai sydd wedi eu tangynrychioli o fewn y celfyddydau yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Mae cymunedau croestoriadol pobl o liw, siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc, pobl LGBTQ+, a phobl anabl a/neu niwroamrywiol yn rhan hanfodol o’n cymuned, ond nid ydynt i’w gweld, eu hyrwyddo na’u dathlu ar hyn o bryd fel y dylent fod o fewn yr hunaniaeth gymunedol ehangach. I ddechrau mynd i’r afael â hyn, rydym yn gobeithio cefnogi creu modelau ròl gweledol o wirfoddolwyr o’r cymunedau o hunaniaeth sy’n croestorri.

Scroll to Top