Y Baghdaddies

Ar Fehefin 13eg fe ynunon ni â’r Baghdaddies ar gyfer gig dethol wedi’i recordio o flaen llaw. Yn ogystal â’r traciau a recordiwyd yn unswydd i Span, ymunodd y band â ni ar y ‘Chat’ i godi’r galon ac i sgwrsio â’r gynulleidfa.

Roeddem yn ymwybodol fod pawb yn gweld eisiau’r llawr dawns, felly penderfynon ni i ddod ag e at bobl Sir Benfro a thu hwnt gyda’r band afieithus a stwrllyd hwn! Roedd y gymysgedd wefreiddiol o felodïau o’r Balcanau, ska a grŵfau Lladin a phres chwilboeth wedi’i berfformio gydag egni gwyllt, a’r hiwmor theatraidd yn bendant yn peri i’r gynulleidfa guro eu traed!

Mae cefnogi perfformwyr a cherddorion wedi bod yn un o’n prif flaenoriaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, wrth i ni barhau i  gyflwyno cerddoriaeth o’r radd flaenaf. Er mwyn cadw at ein hamcanion roedd y gig yn ddigwyddiad codi arian ar gyfer y sefydliad er mwyn i ni barhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud!

Os ydych yn hoffi’r hyn a welwch, ac os hoffech chi gefnogi’r celfyddydau yn Sir Benfro, byddem yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau y gallwch eu fforddio.

Cyfrannwch yma.

Scroll to Top