ArtsBoost
Bethan Morgan: Hi/Hynt
Rhidian Evans
Mae Rhidian yn Brif Swyddog gyda Menter Iaith Sir Benfro ac wedi gweithio i’r sefydliad ers 20 mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd mae cydweithio agos wedi bod ar brosiectau cymunedol rhwng y Fenter â Chelfyddydau Span ac wrth ymuno â’r Bwrdd edrychir ymlaen at gryfhau a datblygu hyn ymhellach a chael cynnig cymorth wrth drefnu digwyddiadau Cymraeg.
The Pull Ffilm fer gan Sam Walton
Criw Celf
Cadw Oed Gyda Natur – Yr Ap Deitio Newydd
Dod yn ymddiriedolwr
Rydym yn awyddus i recriwtio aelodau Bwrdd newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr i helpu i arwain a chefnogi ein tîm arwain drwy adferiad ac ailagor a helpu i lunio arlwy gelfyddydol ôl-covid hyfyw ar gyfer Sir Benfro. Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd gan ein bod am ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i gyflawni ein cenhadaeth i wneud ‘Celf fel newid cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru’. Rydym nawr yn chwilio am aelodau bwrdd newydd profiadol, angerddol sydd â chysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span Arts i’r dyfodol. Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o aelodau bwrdd, gydag arbenigedd a phrofiad ym meysydd cyllid, datblygu cymunedol, y celfyddydau, cydraddoldeb, amrywiaeth, adnoddau dynol a’r iaith Gymraeg. Lawrlwythwch y pecyn cais ar gyfer aelodaeth Bwrdd isod: SPAN Trustee Application Form 2020 Neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol i ddarganfod mwy cysylltwch â’r Cadeirydd Cathy Davies ar cathyfronfarm@gmail.com
Carys Mol
Mae Carys Mol yn Gynhyrchydd Creadigol ac yn un o’r Hwyluswyr Lles cyntaf sy’n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru. Mae ei hymarfer cynhyrchu yn rhyngddisgyblaethol, gan weithio ar draws theatr, celfyddydau awyr agored, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a phrosiectau cymunedol yng Nghymru (Theatr Hijinx, Articulture). Mae ganddi brofiad arbennig o gefnogi artistiaid ag anghenion mynediad, gan gyd-ddylunio fframweithiau sy’n helpu pobl i greu yn y ffyrdd sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae Carys yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar hyn o bryd mae’n Gydymaith Cyngor Celfyddydau Cymru (2023-25).