Alys

News

Mae Côr Cymunedol torfol Côr Pawb yn ôl!

Yn 2015, ffurfiodd Celfyddydau SPAN Côr Pawb, côr cymunedol dorfol o 70-100 cantorion rhwng chwech a naw deg chwech mlwydd oed, o bob rhan o'r sir a thu hwnt.   Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn dychwelyd gyda pherfformiad gwefreiddiol I ddod â Gŵyl Llais A Cappella Arberth i ben ar ddydd Sul y 5ed o Fawrth 2023 yn Neuadd y Frenhines. Bydd y côr torfol yn cyfarfod am gyfres o ymarferion yn Neuadd Gymunedol Clunderwen o dan arweiniad yr arweinwyr corau profiadol Molara Awen (One Voice a Cân Sing), Maya Waldman (Sweet Harmony a Lleisiau Preseli) a Tomos Hopkins (Côr Dysgwyr Sir Benfro). Dyddiadau ymarfer: 19eg o Dachwedd, 7fed o Ionawr, 29fed o Ionawr, 19eg o Chwefror. Bydd sesiynau yn digwydd o 11 i 4 o’r gloch. Mae ymarferion yn rhad ac am ddim i'w mynychu, ond croesawn unrhyw rhoddion. Wedi'i sylfaenu ar egwyddorion cryfder a gwydnwch cymunedol, mae Côr Pawb yn croesawu pob llais, waeth beth fo'u gallu i ganu, i ddod ynghyd ar gyfer dathliad o gân i godi’r calon. Does dim rhaid bod yn aelod o gôr neu wedi canu o'r blaen i ymuno. Mae croeso i bawb - cantorion profiadol [...]
News

Celfyddydau SPAN x Menter Iaith Sir Benfro yn cyflwyno Ensemble John S. Davies

Mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro, mae Celfyddydau SPAN yn falch iawn o gyflwyno Ensemble John S. Davies yn ein Cyngerdd Adfent poblogaidd eleni am 3 o’r gloch Dydd Sul y 27ain o Dachwedd yng Nghapel Pisga, Llandysilio, SA66 7TF.   Rydym yn falch o groesawu'r adnabyddus John S. Davies a'i ensemble i naws atmosfferig golau cannwyll yng Nghapel Pisga. Bydd y grŵp talentog o gantorion proffesiynol, aelodau o gorau eglwysi cadeiriol, a myfyrwyr cerdd wedi'u dewis gan John Davies ei hun yn cyflwyno awr lawen o gerddoriaeth gorawl ddwyieithog er mwyn croesawu dechrau'r Adfent. Wedi’u ffurfio yn 1978, mae Cantorion John S. Davies yn perfformio'n rheolaidd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, wedi teithio gyda'r clasuron mawr a gweithiau newydd gwych - y mwyafrif yn rhai di-gyfeiliant- o Lundain i Rufain, ac wedi perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru. Mae John yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bu'n fyfyriwr. Yn ei swyddogaeth fel Sefydlydd a Chyfarwyddwr Celfyddydol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun (1970-2006) cafodd ei anrhydeddu â'r MBE ym 1997. Mae hefyd wedi derbyn nifer o wobrwyon eraill am ei waith ym myd cerddoriaeth yng Nghymru. Drysau’n agor am 2.30 o’r gloch. Cyngerdd yn cychwyn am 3
News

Mae rhaglen newydd wedi’i chydgynllunio yn lansio at Celfyddydau SPAN

Rydym yn falch i gyhoeddi lansiad cyfres o brosiectau newydd wedi’u cydgynllunio gan roi lle canolog i leisiau’r gymuned. Yn dilyn 6 mis o sgyrsiau creadigol, mae'r prosiectau hyn yn nodi pennod gyffrous i SPAN wrth i ni gychwyn proses gyd-greu newydd ar y cyd â'r gymuned.   Chwedlau'r Normal Newydd / Tales from the New Normal: Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Comic Relief, rydym yn cydweithio gyda’r actor a dramodydd Ceri Ashe (Bipolar Fi, Chwedlau’r Cyfnod Clo: Bara a Babanod) a’r Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Anna Sherratt (Rholiwch am Wellhad/Roll for Remission) i greu Chwedlau'r Normal Newydd / Tales from the New Normal : darn theatr ddwyieithog ar-lein, wedi ei arwain gan y gymuned, sy'n edrych ar realiti bywyd mewn byd wedi'r cyfnod clo. Caiff perfformiadau eu ffrydio’n fyw ar-lein ym mis Rhagfyr.   Comisiwn Gwobrau Partner Unlimited: Ochr yn ochr â National Theatre Wales a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o ymuno â chomisiwn partner Unlimited am y tro cyntaf. Mae Unlimited yn comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl sy'n wrthryfelgar, radical, anturus, ysbrydoledig, a chwareus. Rydym yn awyddus i weithio gydag artist anabl sydd wedi ymgysylltu'n gymdeithasol i greu gwaith newydd sy'n meddu ar gyseiniant
News

Bydd Gŵyl Llais A Cappella Arberth yn dychwelyd yn 2023!

Safiwch y dyddiad! Mae NAVF yn ôl gyda dyddiad ar gyfer eich dyddiaduron 2023. Mae Celfyddydau SPAN yn hynod gyffrous i gyhoeddi y bydd Gŵyl Llais A Cappella Arberth yn ôl yn ei hanterth o'r 3ydd - 5ed o Fawrth 2023! Gallwch edrych ymlaen at benwythnos gŵyl sy'n llawn cerddoriaeth fyw, gwledd ganu anhygoel, yn ogystal â gweithdai diddorol a dyrchafol dan arweiniad meistri a cappella. Bydd modd archebu tocynnau ar-lein yn fuan iawn at span-arts-dev.co.uk neu drwy'r swyddfa docynnau ar 01834 869323. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio yma a bod y cyntaf i wybod pryd mae tocynnau'n mynd yn fyw. Dewch yn ôl  i weld mwy o ddiweddariadau ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Facebook | Instagram | Trydar Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Penfro, mewn cydweithrediad â Neuadd y Frenhines a Chapel Bethesda, Arberth. Narberth A Cappella Voice Festival 2022
current project

SPAN Cyrraedd

An online artistic programme to reduce isolation and loneliness, alleviate fear, stress and boredom, and build community networks in Pembrokeshire.
This programme had its roots in Span Digidol, enabling us to respond quickly to the COVID crisis.

News

Cân Sing: Canu er lles yr enaid

Grŵp canu deufisol i bob gallu yw Cân Sing, sy'n dathlu manteision dyrchafol canu   Mae'r grŵp wedi bod yn cwrdd ers blynyddoedd lawer, gydag ychwanegiadau newydd ar hyd y ffordd. Mae'n berffaith os ydych chi'n edrych i ganu'n rheolaidd mewn amgylchedd di-bwys, neu os ydych chi am ganu bob hyn a hyn. Mae cyflymder yr addysgu yn addas i bawb, heb unrhyw cyfyngiadau amser. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod sesiynau wedi dychwelyd i Arberth, ac yn cael eu cynnal yn Eglwys y Bedyddwyr Bethesda, Arberth, yn rheolaidd am 7.15pm – 9.15pm Bydd yr ymarferydd lleisiol Molara yn arwain y grŵp drwy ddathliad archwiliol o ganu, gan ganolbwyntio ar gryfhau'r llais, goresgyn rhai o'r rhwystrau corfforol ac emosiynol i ganu'n agored ac yn rhydd, a mwy na dim, mwynhau canu! Mae'r repertoire yn amrywiol, gyda chaneuon o Georgia, Ghana, Zimbabwe, a Hawaii, ac ychydig o shanties, yn ogystal â caneuon pop. Mae'r prosiect wedi darparu cefnogaeth a chysylltiad hanfodol ac wedi helpu i wella lles pobl yn y cyfnod anoddaf hwn. Mae aelodau wedi dweud bod y sesiynau yn "ysgogi, cysylltu a chynhesu'r galon ... gyda cymysgedd o gynhesrwydd, sgwrs a chân." Dyddiad: Pob 1af a 3ydd Dydd Llun y
current project, project

Unlimited: Gwobrau Partneriaeth ar gyfer Artistiaid Anabl

Rydym wrth ein boddau bod Celfyddydau SPAN wedi'u cyhoeddi fel partneriaid yng Ngwobrau Partner Rhyngwladol Unlimited ar gyfer Artistiaid Anabl Mae Unlimited yn gorff comisiynu celf sy’n cefnogi, ariannu a hyrwyddo gwaith newydd gan artistiaid anabl ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Ers 2013, mae Unlimited wedi cefnogi dros 460 o artistiaid gyda chyllid o dros £4.9 miliwn, a chyrraedd cynulleidfaoedd o dros 5 miliwn, sy’n golygu ei fod ar y brig yn fyd-eang fel cefnogwr artistiaid anabl. Ym mis Ebrill 2022 daeth Unlimited yn sefydliad annibynnol a chanddo genhadaeth i gomisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliant cyfan yn gwneud hynny. Yn ei flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, mae Unlimited yn gwneud pethau’n wahanol i chwalu’r rhwystrau mae artistiaid anabl yn eu hwynebu, ac i gefnogi newid systemig a chynaliadwy. Mae Celfyddydau SPAN yn un o 17 o sefydliadau yn y DU sy'n partneru gydag Unlimited i gynnig 20 o wobrau i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £584,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y DU a/neu yn rhyngwladol,
News

Launching this Autumn: Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a pilgrim

Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a pilgrim: sounding the way back through story and song is a participatory arts project seeking to connect with the Welsh and Irish diaspora with particular reference to Pembrokeshire and Wexford and a new cross-border pilgrimage connecting these places. The project takes its title and inspiration from an 18th century hymn by the prolific Welsh writer William Williams Pantycelyn. The song widely known in Wales and beyond through the Welsh diaspora will be familiar to a great many other people around the globe as it is mostly sung to the tune of Amazing Grace. This project will invite people wherever they are in the world to sing this song, a version of this song or any song of special significance to them and the themes of this project and to pin that recording to our online map. Project participants will also have the chance to offer their personal reflections and connections to North Pembrokeshire and Wexford whether current resident, the home place of their forebears, or place of significance for other reasons. Click here to view the project page. The project Pererin Wyf will begin in September 2022 with a series of free online
News

SPAN Arts Announced as Partners in Unlimited Awards

Rydym wrth ein boddau i rannu bod Celfyddydau SPAN wedi'u cyhoeddi fel partneriaid yng Ngwobrau DU a Rhyngwladol Unlimited ar gyfer Artistiaid Anabl. Mae Unlimited yn gorff comisiynu celf sy’n cefnogi, ariannu a hyrwyddo gwaith newydd gan artistiaid anabl ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Ers 2013, mae Unlimited wedi cefnogi dros 460 o artistiaid gyda chyllid o dros £4.9 miliwn, a chyrraedd cynulleidfaoedd o dros 5 miliwn, sy’n golygu ei fod ar y brig yn fyd-eang fel cefnogwr artistiaid anabl. Ym mis Ebrill 2022 daeth Unlimited yn sefydliad annibynnol a chanddo genhadaeth i gomisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliant cyfan yn gwneud hynny. Yn ei flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, mae Unlimited yn gwneud pethau’n wahanol i chwalu’r rhwystrau mae artistiaid anabl yn eu hwynebu, ac i gefnogi newid systemig a chynaliadwy. Mae Celfyddydau SPAN yn un o 17 o sefydliadau yn y DU sy'n partneru gydag Unlimited i gynnig 20 o wobrau i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £584,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y DU
News

Celfyddydau Span yn cyflwyno: Shakespeare Awyr Agored: A Midsummer Night’s Dream

Mae Celfyddydau Span yn falch iawn o gyhoeddi fod Cwmni Theatr y Festival Players yn dychwelyd i leoliad hudolus Lampeter House i ddathlu blwyddyn arall o Shakespeare yn yr awyr agored. Hanes pedwar o gariadon ifanc sy’n cael eu lapio ym mreichiau breuddwydiol coedwig dan hud a geir yn A Midsummer Night’s Dream. Yma mae ellyllon un cuddio a’r tylwyth teg yn teyrnasu. Wrth i frenin a brenhines y tylwyth teg ymgecru a’i gilydd, caiff eu llwybrau eu croesi gan Bottom, Quince a’u ffrindiau sy’n cyflwyno drama oddi mewn i ddrama. Mae Puck, prif wneuthurwr y drygioni, wrth law i sicrhau bod cwrs gwir gariad yn unrhyw beth ond llyfn, ac o ganlyniad gwelwn gemau ffantasi, cariad a breuddwydion yng nghomedi mwyaf hudolus Shakespeare. Mae‘r Festival Players, a noddir gan y Fonesig Judi Dench, â 60 mlynedd o brofiad cyfunol o theatr deithiol broffesiynol, ac maent ar fin dod â miri ac anrhefn i'w perfformiadau o gomedi mwyaf lliwgar Shakespeare yr haf hwn. Bellach ar eu 36ain taith flynyddol, mae'r grŵp bywiog o Swydd Gaerloyw yn dod â  A Midsummer Night's Dream i dros 50 o leoliadau o abatai i amffitheatrau ledled y DU a thu hwnt. Mae cyflwyno Shakespeare
completed project

Sesiwn Holi Garddwyr BBC Radio 4 gyda Celfyddydau Span

Cyflwynodd Celfyddydau Span sesiwn holi ‘Gardeners' Question Time BBC Radio 4’, yn Arberth am y tro cyntaf erioed ar Ddydd Mawrth y 28ain o Fehefin 2022. Mae “Gardeners’ Question Time” wedi dod yn sefydlog ar amserlen Radio 4 ers y cychwyn yn 1947, ac mae'n denu 2 filiwn o wrandawyr yr wythnos. Cafodd aelodau'r gynulleidfa y cyfle i gyflwyno eu cwestiynau i banel o arbenigwyr garddio enwog yn ystod recordio dwy bennod o’r sioe. Ymunodd Kathy Clugston, cadeirydd "Gardeners' Question time",  â'r frenhines o blâu a chlefydau Pippa Greenwood, arbenigwr planhigion tŷ a thyfwr tŷ gwydr Anne Swithinbank, a dylunydd gardd ac arbenigwr GQT amser hir Chris Beardshaw, yn ffres o fedal aur arall o Chelsea. "NID yw'r panel BYTH yn gweld y cwestiynau cyn y recordiad. Mae eu hatebion, sy'n ymddangos yn ddiymdrech, yn gwbl ddigymell ac yn datgelu eu profiad a'u dyfnder enfawr o wybodaeth garddio. Nid yw bod ar y panel GQT ar gyfer y gwangalon!" BBC Radio 4. Yn y gorffennol mae’r panel wedi bod yn westeion i amrywiaeth o glybiau garddio a sefydliadau eraill, gan gynnwys recordio ar ben Yr Wyddfa, darlledu o Balas Buckingham, ac ateb cwestiynau o'r tu mewn i Rif 10 Stryd
current project

Mae Stondin Planhigion SPAN yn dychwelyd am y 28ain tro Pasg yma!

Credyd Delwedd: Di Ford Mae'r 29fed o Ebrill 2023 yn nodi dychweliad hir ddisgwyliedig Stondin Span Arts Plant i Arberth am y 28ain tro.  Mae’r Stondin Planhigion eleni yn argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl i’r gymuned gyfan. Mwy o wybodaeth i ddilyn. Bydd y stondin yn gartref i amrywiaeth drawiadol o flodau, perlysiau a phlanhigion llysiau, yn ogystal â stondin gacennau yn llawn danteithion cartref. Lleolir y stondin y tu allan i adeilad Celfyddydau SPAN, The Towns Moor, Heol Moorfield, Arberth SA67 7AG. Mae'r Stondin Planhigion nid yn unig yn ddyddiad pwysig yn y calendr garddio, ond mae hefyd yn hynod bwysig i SPAN fel elusen; bydd yr holl elw o'r stondin yn helpu'r elusen o Arberth i ddarparu perfformiadau a phrofiadau celfyddydol i bobl o bob rhan o Sir Benfro.  Croesawodd Span dros 1,300 o ymwelwyr i’r Stondin Planhigion FAWR fwyaf diweddar yn 2019, ac edrychwn ymlaen at ddychweliad yr arwerthiant planhigion mawr blwyddyn yma. Credyd Delwedd: Di Ford Cymerwch Ran  Os hoffech gyfrannu unrhyw blanhigion i’r arwerthiant er budd Span Arts, cysylltwch â ni ar 01834 869323 neu e-bostiwch info@span-arts-dev.co.uk.  Rydym bob amser yn ddiolchgar i wirfoddolwyr sy'n cynnig eu cymorth gyda'r Arwerthiant Planhigion ar bob lefel.
News, Role

Ymunwch â’n tîm!

Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol   Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol brwdfrydig a chyfeillgar. Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol, yn barod i fynd allan i'r gymuned i ymgysylltu â phobl leol. Fel rhan o’n tîm bach ond pwerus byddwch yn gweithio gyda’n Cynhyrchydd Cymunedol a’n gwirfoddolwyr i gyflwyno rhaglen greadigol o ymgysylltu a pherfformiad ar gyfer pobl Sir Benfro a gorllewin Cymru. Elusen celfyddydau cymunedol yw Celfyddydau Span, wedi’i lleoli yn Arberth. Rydym yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yn Sir Benfro - i ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol ac yn ceisio herio canfyddiadau o'r hyn y gall cymunedau gwledig ei wneud a'r hyn y gallant ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd.  Oriau gwaith: 21 awr yr wythnos Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis Tâl: £21,560 y flwyddyn (FTE)   Tâl Pro rata: £12,936 (yn seiliedig ar 21 awr yr wythnos) Dyddiad Cau: 9yb, Dydd Mawrth 31ain o Fai 2022 Nodwch os gwelwch yn dda na fyddwn yn derbyn CVs. I wneud cais, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod: Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a Chymunedol 2022 Mae yna fersiwn print bras ar gael yma hefyd: Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a
Scroll to Top