Perfformiad Nadoligaidd Theatr Soffa: Nadolig Plentyn yng Nghymru
Bu cymunedau ledled Sir Benfro yn gweithio’n galed tuag at berfformiadau o stori Nadolig annwyl Dylan Thomas, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, a gafodd ei ffrydio’n fyw yn Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd ymarferion dros alwadau fideo fel rhan o brosiect arloesol Theatr Soffa, gyda phobl yn cymryd rhan o bob cornel o Sir Benfro a Ceredigion ac felly’n gwneud hi'n bosibl i bobl â chyflwr iechyd gymryd rhan mewn prosiect cymunedol. Cydweithiodd Span, Menter Iaith Sir Benfro a Cered i ddod â grwpiau Cymraeg a Saesneg at ei gilydd, a mae’r ddau gast wedi bod yn greadigol wrth grefftio propiau a gwisgoedd eu hun i ddod â'r stori galonnog i fyw. Mae hanes barddonol Dylan Thomas am Nadoligau ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru yn stori boblogaidd iawn, yn cynnwys bleiddiaid, eirth, hipos a chath Mrs Prothero. Cafodd y fersiwn theatr ei chyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio cyfieithiad Bryan Martin Davies. Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth rhyfeddol Deuair sy'n cynnwys doniau cerddorol Elsa Davies a Ceri Owen-Jones, a gwaith celf wreiddiol hyfryd Jake Whittaker, sydd hefyd yn gweithio fel Technolegydd Creadigol ar y cynhyrchiad. Mae Theatr Soffa yn rhan o brosiect Celfyddydau ac Iechyd Span Arts sydd wedi [...]