Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd
Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd / Song of the Golden Road Listening Party Tafarn Sinc, 6ed Tachwedd 2021 Gallwch wrando i’r faled gyfan yma! Ar ôl haf o sgyrsiau a theithiau cerdded llawn gwybodaeth yn ardal y Preselau, mae'r faled radio Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road yn barod o'r diwedd ar gyfer ei darllediad cyhoeddus cyntaf. Bydd y rhaglen radio dwyieithog ar-lein, awr o hyd, hon yn cael ei lansio yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun. Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun- dyma’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt. Roedd y sesiynau hyn yn dilyn y gwahanol themâu o neolithig, amaeth, addysg, crefydd a diwydiant ac roedd yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, wrth ddarganfod a chwilota i’r ‘pethe’ sy’n bwysig i bobl am y lle. Dywedodd Sophie Jenkins, sydd wedi gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a’r Gymuned gyda’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin am y [...]