Dros haf 2021 bu Celfyddydau Span yn gweithio gyda PLANED a’r artist Rowan O’Neill i gynhyrchu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Lansiwyd y faled, sef Cân y Ffordd Euraidd, gyda pharti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021.
Mae baled radio yn ddarn o waith clywedol estynedig sy’n plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol, a cherddoriaeth a geiriau newydd. Crëwyd y faled rhwng Mai a Hydref 2021 trwy gyfres o sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gan recordio deunydd ym mhob digwyddiad.
Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau. Mae’r faled derfynol sy’n awr o hyd wedi’i chreu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd, gan blethu bywydau ac ieithoedd byw ardal y Preselau at ei gilydd yn fedrus.
Dywedodd yr Artist a Chynhyrchydd Cymunedol Rowan O’Neill ei bod hi “wedi bod yn anhygoel cael gwireddi’r prosiect eang yma gyda chymorth Celfyddydau Span a PLANED. Mae e wedi cyweddu cymaint o bobl wahanol, i gyd wedi’u cysylltu gan eu cariad tuag at y Preselau, y dirwedd, a diwylliant yr ardal hon.”
Rhannodd cynhyrchydd y faled Paul Evans, sydd â gwreiddiau ym Mynachlog Ddu, ei fod e wedi’i “ryfeddu gan yr holl brosiect. Dw i mor falch i fod yn rhan ohono fe!” Daeth sesiynau recordio i’r cyhoedd i ben yn Hydref gyda digwyddiad Côr Unnos yn Rhosygilwen ar 3 Hydref wedi’i gefnogi gan CCC. Daeth y côr ynghyd i ddysgu a recordio ‘Y Tangnefeddwyr’, gosodiad o gerdd Waldo Williams gan y cyfansoddwr Eric Jones.
Roedd gan Stuart Berry, Cydlynydd Diwylliannol PLANED, hyn i ddweud am y faled derfynol: “Mae’r faled wir yn ddarn o gelf – mae’n brofiad mor emosiynol, positif sy’n ysgogi hapusrwydd, balchder, a llawer mwy. Mae’n disgrifio tapestri cyfoethog, hynod o bersonol o iaith, tirwedd, treftadaeth, profiad personol, traddodiad – a mwy!”
Fel y nododd cerddores a chyfranogwr y prosiect Shelley Morris, “Fe roddodd hyder i mi greu, i greu mwy o bethau am y Preselau, i greu mwy o gelf, mwy o gerddoriaeth, mwy o farddoniaeth. Roedd yn ysbrydoledig iawn i mi.”
Cliciwch yma i wrando i’r faled gyfan!
Cliciwch yma i wylio ‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’, sef ffilm fer ynglŷn â chreu’r faled, y gweithdai cerddoriaeth, a’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau.
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect gan gynnwys trawsgrifiad llawn o’r faled radio yn yr e-lyfr. Cliciwch yma i ddarllen!
Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o ddolenni i fap y prosiect sydd ar gael ar-lein a dal yn agor i gyfrannu ato. Cliciwch yma i ymweld â’r map!
Gellir cael copïau CD o’r faled lawn o swyddfeydd Span Arts (The Towns Moor, Moorfield Rd, Arberth SA67 7AG). Cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk neu ffoniwch 1834 869323 i archebu eich copi.
Ariennir Cân y Ffordd Euraidd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, rhan o gynllun Great Place, sydd yn dathlu treftadaeth, diwylliant, a thirwedd unigryw’r Preselau.
This project responds to two strands of the PLANED Heritage Lottery funded Preseli Heartlands project, part of the Great Places scheme; namely Routes to Roots and Our Museums.
Routes to Roots aims to bring people together to explore and identify tangible and intangible heritage, current and past cultural and heritage activities and events, as well as existing heritage skills and skills gaps. Researched material formed the basis for heritage interpretation with different communities creating specific outputs in order to celebrate their local history.
Our Museums aims to explore the concept of museums as experienced traditionally in order to find new and holistic ways to present local heritage, especially given the rurality of the area.