Rhaglen o weithdai canu mewn lleoliadau gofal yn Sir Benfro yw Corau Gofalgar gan dargedu pobl hŷn a rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’r gweithdai wedi’u cynnal, pan mae ariannu wedi caniatáu hynny, ers 2015. Mae Corau Gofalgar yn manteisio ar rym adferol canu i gyflawni budd cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r rhaglen yma o weithdai canu wedi ei phrofi ei hun yn llwyddiant enfawr ac yn arf bwerus i wella llesiant.
“Having the singing in the lounge has been like a ray of sunshine on a grey day.”
