Yn fyw gartref gyda Bardd gyda chefnogaeth gan Eädyth
Bîtbocs, lwpio byw arloesol, calimba trydan, ffidil gwerin, organ jazz, gîtar y felan a’r gair llafar. Y bît bocsiwr dwyieithog Mr Phormula gyda’r bardd ac awdur geiriau Martin Davies yn arloesi mewn ymdoddiad newydd o gerddoriaeth sy’n archwilio prosesau traddodiadol a modern. Ddydd Sadwrn Medi 12fed perfformiodd Bardd gig dethol wedi’i ffrydio’n fyw – noson yn ymdeithio rhwng gwreiddiau barddol Cymru a disgo ffync rhydd. Yn cefnogi’r band yr oedd Eädyth, canwr, cyfansoddwr ac offerynwr 22 oed o Ferthyr Tudful sydd wedi bod yn rhyddhau recordiadau yn y ddwy iaith ers pedair blynedd. Roedd yn noson o fîtbocsio, lwpio byw arloesol, Calimba trydan, ffidil werin, organ jazz, gîtar y felan a barddoniaeth gair llafar ochr un ochr a churiadau i ddawnsio iddynt. Mae Bardd yn cynnwys yr artist gair llafar gwobrwyedig Martin Daws (Bardd plant Cymru 2013-16), y lwpiwr byw a bîtbocsiwr chwedlonol Mr Phormula (a fu’n bencampwr bîtbocs Cymru ddwywaith), a’r aml-offerynnwr anhygoel Henry Horell (Gitâr/Allweddell/Ffidil). Dywed Bardd mai eu nod yw “dod â phopeth yr ydym at ei gilydd yn un grŵf bendigedig”.