watch

current project, watch

Pererin Wyf
Is Oilithreach Mé
I am a pilgrim

Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace. Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i'r prosiect.  Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio'n fyw ar-lein hefyd. Map Caneuon y ‘Diaspora’ Cynsail sylfaenol y prosiect oedd gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu fersiwn o’r gân hon neu unrhyw gân sydd â’r gallu i’ch galw chi nôl adre ac i binio’r recordiad hwnnw i’n map ar-lein. Croeso i chi binio cân [...]
completed project, watch

‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’: Ffilm Fer Ynglŷn â Chreu’r Faled Radio

Ar y 26ain o Dachwedd cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Llwynhirion ym Mrynberian, Gogledd Sir Benfro, i ddathlu diweddglo prosiect PLANED Ein Cymdogaeth Werin Preseli.  Mae Span wedi cymryd rhan annatod mewn gwireddu elfennau creadigol y prosiect dros y tair blynedd diwethaf.  Yn ystod y digwyddiad dathlu cafodd ffilm fer ynglŷn â’r prosiect ei dangos.  Mae’r ffilm yn dogfennu gweithdai cerddoriaeth y prosiect yn benodol yn ogystal â’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau.   Yn 2018 gweithiodd Span gyda’r arlunwyr Penny Jones a Nia Lewis ar y prosiect Pwytho Straeon oedd yn plethu tecstilau, technoleg ddigidol a threftadaeth er mwyn creu cwilt clytwaith oedd yn llefaru straeon ynglŷn ag ardal Preseli wrth gael ei gyffwrdd. Dilynwyd hyn yng ngwanwyn 2019 gyda Slam Barddoniaeth Y Preseli,  yn gweithio gyda’r bardd Karen Owen ar gyfres o weithdai ysgrifennu mewn ysgolion a chartrefi pobl gydag uchafbwynt o’r slam barddoniaeth ei hun yn Neuadd Goffa Trefdraeth.  Ar ddiwedd y prosiect, yr haf yma gweithion ni mewn partneriaeth a Rowan O’Neill a PLANED i gynhyrchu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd a chafodd ei lansio mewn parti gwrando yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn
News, watch

Gwrandewch Nawr: Baled Radio Cân y Ffordd Euraidd

Ar Nos Sadwrn 6ed Tachwedd cynhaliwyd digwyddiad parti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar gyfer penllanw’r prosiect loteri treftadaeth Cân y Ffordd Euraidd – The Song of the Golden Road.  Mae’r prosiect sydd wedi bod yn rhedeg ers Mai 2021 wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Yn tynnu ysbrydoliaeth o waith Charles Parker, Ewan MacColl a Peggy Seeger a’u baledi radio i ddiwydiant a ffyrdd o fyw eraill a  ddarlledwyd ar y BBC ar ddiwedd y 50au a dechrau'r 60au, mae’r prosiect wedi cynnal sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gan recordio deunydd ym mhob digwyddiad.  Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau. Cafodd faled radio, gwaith clywedol estynedig sy’n plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd, ei chreu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd.  Mae’r faled derfynol sy’n awr o hyd yn plethu bywydau ac ieithoedd byw ardal y Preselau at ei gilydd yn fedrus. Yn Nhafarn Sinc ymunodd y cerddor Stacey Blythe, arweinydd y gweithdai cerddoriaeth ar gyfer y faled, â
watch

Côr Pawb – Lean on Me

Côr rhithiol gyda rhai o aelodau o Gôr Pawb a ddaeth at ei gilydd yn ystod Hydref 2020. Gobeithio y bydd y côr yma, sydd â dros gant o aelodau rhwng 0 a 100 oed, yn gallu dod at ei gilydd i ganu unwaith eto cyn hir fel y gwnaethon nhw yn y gorffennol mewn digwyddiadau a ddaeth â lleisiau o bob oed at ei gilydd.
watch

Memortal/Cofio

Prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol wedi’i arwain gan SPAN oedd Memortal/Cofio, yn rhan o Span Digidol – cyfres o brosiectau peilot i  roi ar brawf sut y gellid defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac ynysiad. Roedd y prosiect yn golygu gweithio gyda phobl oedd yn marw, rhai oedd yn awyddus i baratoi ar gyfer marwolaeth, pobl hŷn sydd wedi eu hynysu, rhai oedd mewn perygl o farw ar eu pennau eu hunain a pherthnasau pobl sydd wedi marw. Nod y prosiect oedd cynllunio offeryn digidol/ap i helpu pobl i greu eu cofnod coffa eu hunain yn dathlu eu bywydau neu fywyd anwylyn. Gan weithio gyda’r artist animeiddio Gemma Green-Hope a’r datblygydd apiau Owen Davies a thrwy ymgynghoriad â chymunedau, cyfranogwyr a rhanddeiliaid, nod y prosiect oedd cynhyrchu cynnwys a syniadau ar gyfer strwythur ap sy’n hygyrch ac yn hawdd ei ddefnyddio. Roedd Louis Embra, Suzanne Radley-Smith, Neil Jordan, Rozanne Hawksley, Charleen Agostini a Hunter Graham yn gyfranogwyr unigol. Yn ogystal, gweithion ni gyda Gofal Solfach  a Chaffi Tosturiol Cymunedol Brynberian, gyda chefnogaeth ariannol gan Grant Cymunedau Gofalgar CGGSB a thrwy Span Digidol, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r rhaglen LEADER a weinyddwyd gan
watch

We are not alone

Ym mis Hydref 2019 teithiodd Clwb Digi Span Digidol i Ysgol Gynradd Aber Llydan i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar animeiddiad byr i’w ddangos yn ystod Parêd Llusernau Hwlffordd, ‘Dros y Lleuad’. Thema’r digwyddiad oedd y gofod, wybren y nos a hanner canmlwyddiant glanio ar y lleuad. Dangoswyd yr animeiddiad ar sgrin sinema wedi’i phweru gan bedalau  a ddarparwyd gan Electric Pedals sy’n cyfuno syniadau am gynaliadwyedd, ymwybyddiaeth ynni ac iechyd ac ymarfer gyda digwyddiadau cymunedol. Diolch i Sarah Hope a Gemma Green-Hope am eu cymorth gyda’r animeiddio.
watch

Noson Gartrefol Nadoligaidd SPAN

Gwyliwch ein noson Nadoligaidd pan fwron ni olwg yn ôl a dathlu holl weithgareddau Span yn 2020. Gydag Anna Sherratt a rhai o’n gwirfoddolwyr gwych yn cyflwyno, roedd cymysgedd o gerddoriaeth, ffilmiau, theatr ar-lein, cwisiau, a raffl ar-lein. Gwisgodd y gwylwyr eu dillad mwyaf pefriog i ddod â’r flwyddyn i’w therfyn mewn steil!  
current project, join in, watch

Theatr Soffa

Gallwch nawr wylio perfformiad gwych o: Chwedlau o'r Normal Newydd: Dod o Hyd i Mi Mewn Môr o Newid. Isod mae dau ddangosiad, y ddau gydag isdeitlau Cymraeg a'r ail gyda dehonglydd BSL. Os hoffech weld y ffilm gydag isdeitlau Saesneg, cliciwch ar y botwm ‘CC’ wrth ymyl y botwm cyfrol yn y gornel dde ar y gwaelod. Sylwch fod y ddrama hon yn addas am oedran 14+ oed ac cynnwys y rhybuddion sbardun canlynol: trafodaeth am farwolaeth, trafodaeth am fesurau COFID-19 a brechiadau, trafod cyfrifoldebau gofalu a chyflyrau iechyd hirdymor, trafodaeth am iechyd meddwl, trafodaeth am ganser, rhegi.  “Mae’r rhaglen a luniwyd gan Span wedi fy helpu drwy roi rheswm i mi gadw fy mywyd mor normal â phosibl, rheswm i godi o’r gwely, gwisgo a chael eillio!” “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cau i ffwrdd ond mae’r prosiect wedi rhoi bywyd cwbl newydd i mi”   Roedd y prosiect mor llwyddiannus fel bod y cast a'r criw yn awyddus i ddechrau gweithio ar dri drama arall yn yr Hydref 2020. Roedd y cyntaf yn ail-greuad hynod o frwdfarol o Dracula. Roedd yr ail yn ddarn ysgrifennu gwreiddiol a wnaed gyda'r gymuned dan arweiniad Ceri Ashe a elwid
watch

Black Voices

Wedi’i ffurfio ym 1987 gan eu Cyfarwyddwr Cerddorol Carol Pemberton MBE, mae Black Voices wedi ennill clod fel pumawd a cappella merched gorau Ewrop. Ers dros 25 mlynedd mae’r ensemble wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’u canu a pherfformiadau yn nhraddoddiad llafar du – ffurf o gerddoriaeth gynnar wedi’i seilio ar lên gwerin a chwedleua hynafol Affrica  a’r gwasgariad sydd wedi effeithio ar ddatblygiad cerddoriaeth glasurol a genres mwy diweddar  megis canu’r felan a jazz. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r traddodiad cyfoethog hwnnw mae Black Voices wedi datblygu repertoire a threfniannau unigryw o ganeuon ysbrydol, caneuon gwerin traddodiadol o Affrica, y Caribî a Lloegr, jazz, gospel, pop a reggae yn ogystal â chyfuniad o arddulliau cyfoes a chlasurol sydd wedi ennill iddynt gydnabyddiaeth fyd-eang fel cwmni perfformio a dysgu. Mae Black Voices yn ei hystyried yn fraint eu bod wedi cael eu dewis i berfformio o flaen aelodau’r teulu Brenhinol Prydeinig yn y DU a thramor. Ym 1988 perfformiodd yr ensemble mewn cyngerdd awyr-agored ar gyfer y Pab Ioan Pawl II yn Loreto, Yr Eidal, ac yn 1996 o flaen y cyn Arlywydd Nelson Mandela yng Nghyngerdd y Ddwy Genedl yn Neuadd Albert. Yn teithio’r byd gyda’u sain nodweddiadol,
activity, watch

Ein Cysylltiadau ag Affrica

Cynhaliodd Molara, y gantores ac ymarferydd y celfyddydau, y chwedleuwr Phil Okwedy a’r bardd Eric Ngalle Charles, gyfres o weithdai dros alwadau fideo yn archwilio cysylltiadau Cymru â chyfandir Affrica. Trwy chwedleua, barddoniaeth a mwy, rhanodd y cyfranogwyr eu cysylltiadau gyda’r lleoedd, pobl, dillad, bwyd, cerddoriaeth ac ieithoeddd sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r cyfandir ail fwyaf yn y byd.  
watch

Yn fyw gartref gyda Bardd gyda chefnogaeth gan Eädyth

Bîtbocs, lwpio byw arloesol, calimba trydan, ffidil gwerin, organ jazz, gîtar y felan a’r gair llafar. Y bît bocsiwr dwyieithog Mr Phormula gyda’r bardd ac awdur geiriau Martin Davies yn arloesi mewn ymdoddiad newydd o gerddoriaeth sy’n archwilio prosesau traddodiadol a modern. Ddydd Sadwrn Medi 12fed perfformiodd Bardd gig dethol wedi’i ffrydio’n fyw – noson  yn ymdeithio rhwng gwreiddiau barddol Cymru a disgo ffync rhydd. Yn cefnogi’r band yr oedd Eädyth, canwr, cyfansoddwr ac offerynwr 22 oed o Ferthyr Tudful sydd wedi bod yn rhyddhau recordiadau yn y ddwy iaith ers pedair blynedd. Roedd yn noson o fîtbocsio, lwpio byw arloesol, Calimba trydan, ffidil werin, organ jazz, gîtar y felan a barddoniaeth gair llafar ochr un ochr a churiadau i ddawnsio iddynt. Mae Bardd yn cynnwys yr artist gair llafar gwobrwyedig Martin Daws (Bardd plant Cymru 2013-16), y lwpiwr byw a bîtbocsiwr chwedlonol Mr Phormula (a fu’n bencampwr bîtbocs Cymru ddwywaith), a’r aml-offerynnwr anhygoel Henry Horell (Gitâr/Allweddell/Ffidil). Dywed Bardd mai eu nod yw “dod â phopeth yr ydym at ei gilydd yn un grŵf bendigedig”.

watch

Y Baghdaddies

Ar Fehefin 13eg fe ynunon ni â’r Baghdaddies ar gyfer gig dethol wedi’i recordio o flaen llaw. Yn ogystal â’r traciau a recordiwyd yn unswydd i Span, ymunodd y band â ni ar y ‘Chat’ i godi’r galon ac i sgwrsio â’r gynulleidfa. Roeddem yn ymwybodol fod pawb yn gweld eisiau’r llawr dawns, felly penderfynon ni i ddod ag e at bobl Sir Benfro a thu hwnt gyda’r band afieithus a stwrllyd hwn! Roedd y gymysgedd wefreiddiol o felodïau o’r Balcanau, ska a grŵfau Lladin a phres chwilboeth wedi’i berfformio gydag egni gwyllt, a’r hiwmor theatraidd yn bendant yn peri i’r gynulleidfa guro eu traed! Mae cefnogi perfformwyr a cherddorion wedi bod yn un o’n prif flaenoriaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, wrth i ni barhau i  gyflwyno cerddoriaeth o’r radd flaenaf. Er mwyn cadw at ein hamcanion roedd y gig yn ddigwyddiad codi arian ar gyfer y sefydliad er mwyn i ni barhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud! Os ydych yn hoffi’r hyn a welwch, ac os hoffech chi gefnogi’r celfyddydau yn Sir Benfro, byddem yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau y gallwch eu fforddio. Cyfrannwch yma.

Scroll to Top