completed project

Read about Span’s recent achievements and how the project has made its mark.

completed project

Sesiwn Holi Garddwyr BBC Radio 4 gyda Celfyddydau Span

Cyflwynodd Celfyddydau Span sesiwn holi ‘Gardeners' Question Time BBC Radio 4’, yn Arberth am y tro cyntaf erioed ar Ddydd Mawrth y 28ain o Fehefin 2022. Mae “Gardeners’ Question Time” wedi dod yn sefydlog ar amserlen Radio 4 ers y cychwyn yn 1947, ac mae'n denu 2 filiwn o wrandawyr yr wythnos. Cafodd aelodau'r gynulleidfa y cyfle i gyflwyno eu cwestiynau i banel o arbenigwyr garddio enwog yn ystod recordio dwy bennod o’r sioe. Ymunodd Kathy Clugston, cadeirydd "Gardeners' Question time",  â'r frenhines o blâu a chlefydau Pippa Greenwood, arbenigwr planhigion tŷ a thyfwr tŷ gwydr Anne Swithinbank, a dylunydd gardd ac arbenigwr GQT amser hir Chris Beardshaw, yn ffres o fedal aur arall o Chelsea. "NID yw'r panel BYTH yn gweld y cwestiynau cyn y recordiad. Mae eu hatebion, sy'n ymddangos yn ddiymdrech, yn gwbl ddigymell ac yn datgelu eu profiad a'u dyfnder enfawr o wybodaeth garddio. Nid yw bod ar y panel GQT ar gyfer y gwangalon!" BBC Radio 4. Yn y gorffennol mae’r panel wedi bod yn westeion i amrywiaeth o glybiau garddio a sefydliadau eraill, gan gynnwys recordio ar ben Yr Wyddfa, darlledu o Balas Buckingham, ac ateb cwestiynau o'r tu mewn i Rif 10 Stryd [...]
completed project, watch

‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’: Ffilm Fer Ynglŷn â Chreu’r Faled Radio

Ar y 26ain o Dachwedd cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Llwynhirion ym Mrynberian, Gogledd Sir Benfro, i ddathlu diweddglo prosiect PLANED Ein Cymdogaeth Werin Preseli.  Mae Span wedi cymryd rhan annatod mewn gwireddu elfennau creadigol y prosiect dros y tair blynedd diwethaf.  Yn ystod y digwyddiad dathlu cafodd ffilm fer ynglŷn â’r prosiect ei dangos.  Mae’r ffilm yn dogfennu gweithdai cerddoriaeth y prosiect yn benodol yn ogystal â’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau.   Yn 2018 gweithiodd Span gyda’r arlunwyr Penny Jones a Nia Lewis ar y prosiect Pwytho Straeon oedd yn plethu tecstilau, technoleg ddigidol a threftadaeth er mwyn creu cwilt clytwaith oedd yn llefaru straeon ynglŷn ag ardal Preseli wrth gael ei gyffwrdd. Dilynwyd hyn yng ngwanwyn 2019 gyda Slam Barddoniaeth Y Preseli,  yn gweithio gyda’r bardd Karen Owen ar gyfres o weithdai ysgrifennu mewn ysgolion a chartrefi pobl gydag uchafbwynt o’r slam barddoniaeth ei hun yn Neuadd Goffa Trefdraeth.  Ar ddiwedd y prosiect, yr haf yma gweithion ni mewn partneriaeth a Rowan O’Neill a PLANED i gynhyrchu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd a chafodd ei lansio mewn parti gwrando yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn
completed project

Cân y Ffordd Euraidd
Song of the Golden Road

Dros haf 2021 bu Celfyddydau Span yn gweithio gyda PLANED a’r artist Rowan O’Neill i gynhyrchu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Lansiwyd y faled, sef Cân y Ffordd Euraidd, gyda pharti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Mae baled radio yn ddarn o waith clywedol estynedig sy’n plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol, a cherddoriaeth a geiriau newydd. Crëwyd y faled rhwng Mai a Hydref 2021 trwy gyfres o sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gan recordio deunydd ym mhob digwyddiad. Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau. Mae’r faled derfynol sy’n awr o hyd wedi’i chreu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd, gan blethu bywydau ac ieithoedd byw ardal y Preselau at ei gilydd yn fedrus. Dywedodd yr Artist a Chynhyrchydd Cymunedol Rowan O’Neill ei bod hi “wedi bod yn anhygoel cael gwireddi’r prosiect eang yma gyda chymorth Celfyddydau Span a PLANED. Mae e wedi cyweddu cymaint o bobl wahanol, i gyd wedi’u cysylltu gan eu cariad tuag at y Preselau, y
completed project

Parêd Llusernau Hwlffordd

Rhwng 2015-19 bu SPAN yn cyd-gyflwyno’r Parêd Afon Goleuadau blynyddol yn Hwlffordd. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gan Gofod i Greu a’i gyflwyno mewn partneriaeth â SPAN fel rhan o’r ‘Lab’, prosiect celfyddydau ac adfywiad ar gyfer Hwlffordd, tyfodd y parêd llusernau Afon Goleuadau i fod yn ddigwyddiad ysblennydd a phoblogaidd iawn wedi’i gyflwyno gan SPAN mewn partneriaeth ag eraill. Mae Hwlffordd wedi mwynhau pedwar parêd llusernau ysblennydd ers 2015 gan ddod â miloedd o bobl at ei gilydd i rannu digwyddiad cofiadwy a dyrchafol ar gyfer y teulu cyfan Yn fuan iawn daeth y digwyddiad celfyddydol cyfranogol hynod yma’n ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yng nghalendr Sir Benfro gan ddod ag artistiaid a’r gymuned at ei gilydd i greu achlysur i’w gofio wedi’i lunio gan thema neu stori newydd bob blwyddyn. Sefydlwyd y Parêd Afon Goleuadau i ysbrydoli ymdeimlad o gymuned a pherthyn yn Hwlffordd trwy ddigwyddiad ar raddfa fawr yn dathlu’r afon, y dref sirol, creadigrwydd ei phobl a’i chysylltiad â’r cymunedau arfordirol y mae’n eu gwasanaethu. Fel rhan o bob parêd cynhaliwyd gweithdai galw heibio i greu llusernau mewn lleoliadau amrywiol yn Hwlffordd ac ar draws y Sir. Daeth cannoedd o bobl, ynghyd ag artistiaid a gwirfoddolwyr, at ei gilydd yn
completed project, News

Rhwydwaith y Celfyddydau ac Iechyd

Mae Span wedi sefydlu rhwydwaith newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yn Sir Benfro er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth gynyddol fod y celfyddydau yn gallu chwarae rôl anhepgor mewn trawsnewid cymunedau, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad, a gwella iechyd a lles. Beth rydym eisiau ei wneud:- Adeiladu ar, a chryfhau, y rhwydwaith trwy ddenu rhagor o aelodau, ac yn arbennig amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, partneriaid gofal iechyd a chymdeithasol, a grwpiau cymunedol. Trwy gyfarfodydd rhwydwaith (ar-lein) rydym eisiau dod â phartneriaid traws-sector ledled Sir Benfro gyfan at ei gilydd i gydweithio  er mwyn datblygu dull mwy cyson tuag at y celfyddydau a llesiant yn y sir. Gweithredu fel canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth, arbenigedd, canfyddiadau a rhannu data. Codi proffil y celfyddydau ac iechyd yn Sir Benfro a darparu llais ar gyfer y sector, gan rannu adnoddau ac effaith. Ysgogi cefnogaeth i mewn i’r sir er budd iechyd a lles pobl Sir Benfro. Coladu tystiolaeth, rhannu canfyddiadau ac arfer orau er mwyn helpu i greu corff pendant o dystiolaeth am effaith y celfyddydau a llesiant yn Sir Benfro. “From its inception the Pembrokeshire Arts and Health Network has taken a proactive and strategic
Cor Pawb
completed project, News

Codwch Eich Llais Sir Benfro

Ymdrech i dorri record canuYn Chwefror 2020, daeth Celfyddydau Span â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu. Gyda Chôr Pawb a Grŵp A Cappella Ieuenctid Arberth yn cymryd rhan flaenllaw, codwyd lleisiau’n unsain ar draws Sir Benfro fel rhan o Ŵyl Llais A Cappella Arberth 2020. Daeth Codwch eich Llais Sir Benfro â llawer o’n grwpiau canu gwych a’n prosiectau at ei gilydd gan wneud ymdrech i dorri record trwy greu côr i bontio’r cenedlaethau gyda chantorion rhwng 0 a 100 oed. Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes y digwyddiad ac yn rhoi sylw penodol i berfformiad angerddol Côr Pawb o’r gân newydd ‘Sing’ a gyfansoddwyd gan Molara fel rhan o’r prosiect. Daeth y digwyddiad cymunedol arbennig yma â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu’n unsain yn union cyn y pandemig COVID-19 gan godi arian i elusennau ieuenctid a dementia yn lleol . Cymryd Rhan Cymerwch ran yn nigwyddiad ymuno yn y gân Siantis Môr Côr Pawb ar Fawrth 28ain “Thanks for a lovely day. It was a total joy to be surrounded by lovely people and beautiful harmonies, really soul-lifting and rather emotional too. It was gorgeous to see the oldies enjoying the
completed project

Côr Pellennig

Gwahoddir pob hŷn ar draws Sir Benfro i gymryd rhan yng ‘Nghôr Pellennig’ SPAN. Prosiect canu sy’n defnyddio technoleg i ddod â phobl hŷn mewn gwahanol leoliadau at ei gilydd i ganu er mwyn gwella’u hiechyd a llesiant yw’r Côr Pellennig. Pryd? Ymunwch â Molara ar gyfer sesiwn blasu ar-lein ddydd Gwener Mehefin 25ain am 2yp gyda chyfres o sesiynau wythnosol rheolaidd i ddilyn. Ble? Ar  Zoom yn y lle cyntaf. Rydym yn gobeithio, fodd bynnag, y byddwn yn gallu cynnal rhai sesiynau wyneb yn wyneb gan ddibynnau ar ganllawiau COVID. Mae hwn yn brosiect a ariennir yn llawn. Cysylltwch â Nia Lewis i gofrestru diddordeb: nia@span-arts-dev.co.uk Prosiect canu a ddatblygwyd mewn ymateb i’r cynnydd mewn unigrwydd hirfaith a difrifol sy’n rhan o brofiad pobl hŷn yn y DU ac yn enwedig yma yn Sir Benfro lle mae gennym boblogaeth uwch na’r cyfartaledd o bobl oedrannus, lefelau uchel o ynysiad gwledig a chysylltedd gwael. Cafodd 130 o bobl eu cynnwys, 10 ohonynt yn gaeth i’w cartrefi. Roedd cyflyrrau iechyd yn cynnwys dementia, awtistiaeth, COPD, diabetes, MS, ME ac iselder. O ganlyniad i  ddeugain o sesiynau un-i-un a dau ddigwyddiad dathlu cyrhaeddodd y prosiect ei nodau gyda’r adborth - “yn newid
completed project

Y Prosiect Llawen

Prosiect tair blynedd wedi’i ariannu gan Y Loteri Fawr i leihau ynysiad ac unigrwydd trwy’r celfyddydau a gweithgareddau cymdeithasol creadigol. Derbyniodd SPAN £218k gan y Loteri Fawr i leihau ynysiad cymdeithasol, gwledig ac economaidd trwy ymgysylltu pobl â’r celfyddydau. Roedd yn llwydiant ysgubol gan gyrraedd dros saith mil o bobl (yn cynnwys 2,102 o unigolion a enwyd) gyda 12,282 o ymgysylltiadau unigol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cynhalion ni 373 o weithgareddau (yn cynnwys gweithdai, sesiynau estyn allan, digwyddiadau cymunedol a sesiynau gweithdy yng nghartrefi pobl) gyda chyfanswm o 42,987 awr cyfrannog a chreu 572 cyfle i wirfoddoli yn cyfateb i 2002 awr o wirfoddoli a chreu corff o waith a phartneriaethau sydd wedi gadael etifeddiaeth hirhoedlog ar gyfer SPAN ac wedi bod o gymorth i ni i greu gweledigaeth newydd ar gyfer Celf ar Gyfer Newid Cymdeithasol yn Sir Benfro. “The program put together by Span has helped me by giving me a reason to keep my life as normal as possible, a reason to get out of bed get dressed and have a shave!” “I felt shut away but the project has given me a whole new lease of life”
completed project

Clwb Digi

Clwb technoleg greadigol misol  i bobl ifanc. Clwb technoleg greadigol Span i blant 8-16 oed. Rhwng Chwefror 2019 ac Awst 2020 bu Celfydydau Span yn treialu clwb technoleg greadigol misol  er mwyn annog pobl ifanc i fynd i’r afael â thechnoleg greadigol dan ofal artistiaid ac arbenigwyr. Mae sesiynau wedi cynnwys animeiddio stop-symud, creu apiau i ddechreuwyr, cyflwyniad i roboteg, cyfrifiaduron Raspberry-Pi a rhaglennu syml, deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriant, mapio digidol, creu cerddoriaeth electroneg a lwpio llais— a mwy! Gyda niferoedd da’n mynychu pob un, cafwyd adborth ardderchog gan ddangos y gofyn am fwy.
completed project, News

SPAN Digidol

Prosiect dwy flynedd wedi’i ariannu gan Leader a Chyngor Celfyddydau Cymru oedd SPAN Digidol. Cafodd ei gynllunio i ymledu diwylliant ar draws Sir Benfro trwy ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i gymunedau gwledig trwy dechnoleg ddigidol. Cyrhaeddodd y prosiect dros 2,00 o gynulleidfaoedd byw a dros 27,000 o gynulleidfaoedd digidol ledled y sir a thu hwnt gyda chynrychiolaeth o bobl o bob oed. Trwy raglen arloesol o 10 prosiect peilot cysylltodd Span â rhai o’r bobl fwyaf bregus, neu’n draddodiadol/ystrydebol llai hyderus/medrus yn ddigidol trwy brosiectau megis Map Digi Penfro, Cofio, Cân Sing ar-lein, Theatr Soffa, e-docynnau a chynulleidfaoedd Cyngerdd yr Adfent yng Nghapel Pisga. Cyflawnwyd rhai o’r rhain mewn cydweithrediad â Menter Iaith Sir Benfro a Chered. Roedd y prosiect hefyd o gymorth i SPAN addasu’n gyflym i’r argyfwng COVID ac i fedru cyfrannu i’r ymateb cymunedol yn Sir Benfro trwy ddarparu rhaglen ar-lein ar gyfer y cyfnod clo 3 mis gan wasanaethu’r gymuned â phrofiad celfyddydol ar-lein i leddfu diflastod, straen ac unigrwydd ac i wella lles pobl. Roedd pobl yn dweud bod eu hiechyd a’u llesiant yn well o ganlyniad i gymryd rhan mewn prosiectau gan ddangos fod cyfranogaeth mewn gweithgareddau celf yn ffactor i
completed project

Rhannu Bydoedd

Rhan o  ymateb SPAN i’r argyfwng COVID ac ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Sir Benfro. Fel rhan o gyfraniad Span i’r ymateb i’r argyfwng COVID, ac ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Sir Benfro, cyflwynodd Span amrywiaeth o weithgareddau wedi’u harwain gan artistiaid yn ystod yr Hydref yn 2020 er mwyn gwella cysylltioldeb cymdeithasol a llesiant ac i leihau unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed. Yn gynnar yn y cyfnod clo addaswyd y prosiect mewn ymateb i’r argyfwng, gyda’r nod o gysylltu pobl hŷn ac ynysig a phlant trwy gyfrwng sesiynau technoleg greadigol ar-lein, gan gydnabod fod ‘na fwy o bobl ynysig a hŷn a oedd yn gaeth i’w cartrefi, yn unig ac yn bryderus yn ystod y cyfnod anodd yma. Roedd y prosiect yn  bwriadu cyflwyno pobl hŷn i dechnolegau newydd mewn awyrgylch chwareus ac arbrofol. Cyflawnwyd cyfres o bum profiad gweithdy ar-lein wedi eu harwain gan artistiaid ym meysydd dawns, canu gwerin Cymraeg, barddoniaeth, pypedwaith a ffotograffiaeth feddylgar. Roedd mwy na 109 o bresenoldebau gyda 47 o bobl yn mwynhau profiadau creadigol ar-lein yn rheolaidd dan arweiniad yr artistiaid a cherddorion a gomisiynwyd, sef Kerry Steed, Jeremy Huw Williams, Richard Chappell, Emily Laurens a Ray Hobbs. Ar
completed project

Celfyddydau o Bell

Rhaglen gelfyddydol arlein gan gadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau ynysiad ac unigrwydd, lleddfu gofidiau, straen a diflastod, ac adeiladau rhwydweithiau cymdeithasol yn Sir Benfro ar adeg COVID-19. Mae’r rhaglen wedi bod o gymorth i Span i ymateb i’r argyfwng ac adeiladu’n gwydnwch. Datblygwyd y rhaglen yn unol â’n gweledigaeth o Gelf ar gyfer newid cymdeithasol yng Nghymru wledig ac i fanteisio ar rym celf i wneud i bobl deimlo’n well. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2020 cyflawnodd Span rhaglen gynhwysol a chyrhaeddbell ar gyfer pobl Sir Benfro gan gyrraedd 9,000 o bobl yn y sir a thu hwnt, yn cyflwyno’r celfyddydau gyda gweithdai creadigol ar-lein a pherfformiadau theatr gymunedol wedi’u ffrydio’n fyw.   “Being stuck at home because of the lock down and because I am a single mum means my opportunities to do anything like this has been limited. It was great to be able to do this from home and also not have the issue of having to travel.” "Heartwarming and honest” "Original, exciting, uplifting”
completed project, project

Creu a Chysylltu

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith Celfyddydau Span erioed, fedrem ni ddim bodoli hebddynt. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr naill ai’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl (45%+), yn 65 oed neu’n hŷn, neu’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n golygu fod ein tîm o wirfoddolwyr yn perthyn i grŵp bregus wedi’u huno gan ddiddordeb cyffredin yn y celfyddydau yn hytrach na gan ddaearyddiaeth. Er bod gan Gelfyddydau Span rhaglen wirfoddoli hirsefydlog, rydym wedi bod yn rhedeg Creu a Chysylltu, ein Prosiect Gwirfoddolwyr, wedi’i ariannu gan gronfa Gwella Sir Benfro, ers Ionawr 2019. Cyllid a godwyd gan Dreth Ail Gartrefi Cyngor Sir Penfro yw Gwella Sir Benfro ac mae wedi bod o gymorth i Gelfyddydau Span i ymestyn ein Cynllun Gwirfoddolwyr ar draws y sir ac i gyrraedd ardaloedd newydd sydd wedi eu heffeithio’n arw gan berchenogaeth ail-gartrefi. Mae Creu a Chysylltu yn creu mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan yn y celfyddydau trwy brofiadau gwirfoddoli diddorol ac yn helpu pobl i gyfrannu at adfywiad a chyfoethogi bywyd yn ein cymunedau. “I'd just like to say that I've volunteered for a couple of other organisations and that the experience as a volunteer with Span has been by far
completed project

Map Digi Penfro

Map digidol ar-lein yw Map Digi Penfro sy’n caniatáu i bobl gofnodi gwybodaeth sy’n bwysig iddyn nhw am leoliadau lle maen nhw’n byw neu’n teithio drwyddynt. Gellir cofnodi gwybodaeth ar ffurf testun neu ddelwedd gan gynnwys ffotograffau, lluniau, recordiadau sain- hyd yn oed ffilmiau byrion gan gofnodi persbectif, atgofion, straeon, data ayb am y lleoliad. Gweld y map. Datblygwyd y prosiect yn ystod 2019 fel rhan o Span Digidol, ein prosiect celf digidol dwy flynedd gan gychwyn gyda phenwythnos dwys yng Ngarn Fawr yng Ngorffennaf 2019 gyda gweithdai undydd i ddilyn yn Arberth, Aber Llydan a Threfdraeth.. Ym mhob achlysur aeth criw o blant ysgol a /neu drigolion lleol am dro yn eu milltir sgwâr gan gofnodi pethau ar y map yn ymwneud â hanes lleol, natur, daeareg a’u hatgofion ac argraffiadau nhw eu hunain. O ganlyniad mae gennym argraff gyfareddol, amlweddog o’r lleoliad. A chawsom lawer o hwyl yn ei greu! Erys y map ar-lein fodd bynnag, ac mae’n dal yn bosibl ychwanegu ato. Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae cyfarwyddiadau ar y safle. Sut i gymryd rhan Os ydych yn gaeth i’ch cartref ac yn chwilio am rywbeth i’w wneud beth am fwrw golwg ar y map? Mae llawer
completed project

Corau Gofalgar

Rhaglen o weithdai canu mewn lleoliadau gofal yn Sir Benfro yw Corau Gofalgar  gan dargedu pobl hŷn a rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’r gweithdai wedi’u cynnal, pan mae ariannu wedi caniatáu hynny, ers 2015. Mae Corau Gofalgar yn manteisio ar rym adferol canu i gyflawni budd cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r rhaglen yma o weithdai canu wedi ei phrofi ei hun yn llwyddiant enfawr ac yn arf bwerus i wella llesiant. "Having the singing in the lounge has been like a ray of sunshine on a grey day."
completed project

Cyrraedd Y Nod

“The music project has given me my son back”. Roedd prosiect ‘Cyrraedd y Nod’ yn ymgysylltu â phobl ifanc 11-19 oed sy’n ‘anodd eu cyrraedd’ ac â risg uchel o ddod yn NEET (Heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant), trwy gyflwyno gweithdai celfyddydau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac ymddygiad yn Sir Benfro. Y prif nod yn y pendraw oedd helpu eu hail-integreiddio i addysg prif ffrwd, i’r gymdeithas ac, yn y pendraw, i’r gweithle. Fe fu Celfyddydau Span Arts yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion a gyfeiriwyd gan Wasanaeth Cymorth Ymddygiad Sir Benfro, yn ogystal â’r rheiny a oedd yn mynychu Canolfannau Ieuenctid ar draws y sir, Prosiect Cornerstone yng Ngholeg Sir Benfro i bobl ifanc ag anableddau dysgu a’r Uned Awtistig yn Ysgol Penfro. Trwy weithio gyda’r unedau hyn, ymgysylltwyd â chyfranogwyr ar oed digon cynnar fel ein bod yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’w dyheadau, hunan-hyder ac agweddau at ddysgu, trwy ymgysylltu â gweithdai cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol. Roedd Cam 2 yn canolbwyntio ar feithrin dyheadau ac uchelgeisiau’r cyfranogwyr, a’u cefnogi, ac ar feithrin yr hyder a’r hunanhyder sydd eu hangen er mwyn dysgu mewn ffordd

Scroll to Top