Role

Vacancies for jobs, trustees, …

Role

Arweinyddion Côr Pawb

Mae SPAN Arts yn chwilio am arweinydd côr newydd i ymuno â’n prosiect Côr Pawb. Mae Côr Pawb yn anelu at fod yn ddathliad cymunedol, hygyrch, teg ac yn cadarnhau bywyd. Mae pobl o bob oedran a medrau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, a Cheredigion yn ymarfer ac yna’n dod ynghyd i greu rhywbeth sy’n fwy na chyfanswm ei ranau. Mae’r côr yn ddatganiad o undod sy’n rhannu ei lawenydd trwy berfformio mewn digwyddiadau cymunedol a chyngherddau drwy y flwyddyn. Rydym yn chwilio’n am arweinydd côr dyn newydd, i amrywiol cenhedloedd mewn yr tim côr, Mae’r arweinydd côr newydd yn rhaid i gallu etegion ei lais cyfranogwyr y corau bas a baritôn. Rhaid iddynt gael dull cynhwysol o addysgu Allu dysgu trwy’r glust Bod yn gyfforddus yn gweithio gyda chyfansoddwyr o amrywiaeth eang o brofiad gan gynnwys dechreuwyr. Allu dysgu heb gwmni. Côr Pawb is not a standard choir with weekly sessions, rehearsals take place in the run-up to performances and tend to happen on Saturdays and Sundays as needed in Clunderwen. Mae’r Côr Pawb nid yn wythnosol fel côr safonol, mae’r ymarferion yn digwydd yn y cyfnod cyn perfformiadau ac fel arfer ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul fel […]

Role

Dod yn ymddiriedolwr

Rydym yn awyddus i recriwtio aelodau Bwrdd newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr i helpu i arwain a chefnogi ein tîm arwain drwy adferiad ac ailagor a helpu i lunio arlwy gelfyddydol ôl-covid hyfyw ar gyfer Sir Benfro. Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd gan ein bod am ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i gyflawni ein cenhadaeth i wneud ‘Celf fel newid cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru’. Rydym nawr yn chwilio am aelodau bwrdd newydd profiadol, angerddol sydd â chysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span Arts i’r dyfodol. Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o aelodau bwrdd, gydag arbenigedd a phrofiad ym meysydd cyllid, datblygu cymunedol, y celfyddydau, cydraddoldeb, amrywiaeth, adnoddau dynol a’r iaith Gymraeg. Lawrlwythwch y pecyn cais ar gyfer aelodaeth Bwrdd isod: SPAN Trustee Application Form 2020 Neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol i ddarganfod mwy cysylltwch â’r Cadeirydd Cathy Davies ar cathyfronfarm@gmail.com  

News, Role

Ymunwch â’n tîm!

Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol   Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol brwdfrydig a chyfeillgar. Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol, yn barod i fynd allan i'r gymuned i ymgysylltu â phobl leol. Fel rhan o’n tîm bach ond pwerus byddwch yn gweithio gyda’n Cynhyrchydd Cymunedol a’n gwirfoddolwyr i gyflwyno rhaglen greadigol o ymgysylltu a pherfformiad ar gyfer pobl Sir Benfro a gorllewin Cymru. Elusen celfyddydau cymunedol yw Celfyddydau Span, wedi’i lleoli yn Arberth. Rydym yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yn Sir Benfro - i ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol ac yn ceisio herio canfyddiadau o'r hyn y gall cymunedau gwledig ei wneud a'r hyn y gallant ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd.  Oriau gwaith: 21 awr yr wythnos Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis Tâl: £21,560 y flwyddyn (FTE)   Tâl Pro rata: £12,936 (yn seiliedig ar 21 awr yr wythnos) Dyddiad Cau: 9yb, Dydd Mawrth 31ain o Fai 2022 Nodwch os gwelwch yn dda na fyddwn yn derbyn CVs. I wneud cais, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod: Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a Chymunedol 2022 Mae yna fersiwn print bras ar gael yma hefyd: Pecyn Cais Swyddog Gwirfoddol a
Scroll to Top