Cefnogwch SPAN

Bydd eich cefnogaeth yn ysbrydoli a chysylltu pobl, lleoedd a chymunedau gwledig gan ddefnyddio Celfyddydau fel Cyfrwng ar Gyfer Newid Cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru yn greadigol.

Mae’r gymuned a phobl Sir Benfro wrth graidd popeth mae SPAN yn ei wneud;

o gyfranogwyr ac aelodau’r gynulleidfa sy’n llunio ein gwaith, y gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi digwyddiadau, i’r artistiaid lleol rydym yn cydweithio â nhw a’r bobl sy’n cyfrannu i helpu i wneud i’r gwaith ddigwydd.

Fel elusen gofrestredig rydym yn codi arian drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein gwaith. Mae haelioni ein cefnogwyr yn ein galluogi i barhau i gyflawni ein gwaith uchelgeisiol a hanfodol gan helpu i chwalu’r rhwystrau rhag cael mynediad i’r celfyddydau a diwylliant, dathlu lleisiau creadigol amrywiol a gwella llesiant a chysylltiadau ein cymuned.

Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn cyllid blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel Sefydliad Portffolio sy’n cyfrannu tua 28% o’n costau blynyddol. Mae’r 72% sy’n weddill yn cael ei godi bob blwyddyn trwy gyfuniad o roddion, codi arian, nawdd a gwerthu tocynnau.

Mae’ch cefnogaeth yn hanfodol i gynnal a thyfu ein gwaith a’n heffaith.

Os ydych chi’n gallu, ystyriwch pa rôl y gallwch chi ei chwarae gyda Chelfyddydau

SPAN os gwelwch yn dda, ni allem wneud ein gwaith heb eich cefnogaeth.

IMG-0920

Rhowch Rodd

Cefnogwch Gelfyddydau SPAN gyda rhodd heddiw i helpu i Herio Anghydraddoldeb, Hyrwyddo Lleisiau amrywiol a dathlu’r Gymraeg yn Sir Benfro drwy’r celfyddydau.

Mae Celfyddydau SPAN yn elusen gofrestredig, Elusen Rhif: 1088723, Rhif Cwmni: 04150772.

 

Rydym bob amser yn falch iawn o dderbyn eich cefnogaeth drwy roddion ac rydym yn ddiolchgar ar ba bynnag lefel y gallwch ei rhoi. Rydym yn ymwybodol ei bod yn gyfnod anodd yn ariannol i lawer o bobl ac nid yw eich cefnogaeth yn osgoi’n sylw ni. Gallwn sicrhau fod unrhyw bunt sbâr, neu bump neu ddeg, yn mynd tuag at wneud gwahaniaeth drwy’r celfyddydau.

Rydym yn derbyn 100% o roddion, a gallwch gynyddu hyn o 25% drwy Gymorth Rhodd os ydych yn gymwys.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gall Gelfyddydau SPAN helpu i chwalu rhwystrau rhag mynediad at y celfyddydau a diwylliant i bobl Sir Benfro a chefnogi gwaith artistiaid lleol – gan sicrhau bod modd cadw manteision y celfyddydau yn hygyrch i bob aelod o’n cymuned.

Dewch yn FFAN SPAN

Drwy roi rhodd reolaidd, mae ein cefnogwyr Ffans-SPAN yn chwarae rhan hanfodol wrth ein cefnogi i gyflawni a chynnal ein rhaglen. Mae bod yn Ffan-SPAN yn ffordd hawdd o chwarae rhan weithredol wrth gefnogi ein gwaith.

Yn hytrach na sefydlu aelodaeth aur, arian neu efydd safonol a welir gydag elusennau eraill, mae gennym fodel Cyfrannwch yr Hyn y Gallwch. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ei fod yn cyd-fynd â meddylfryd sut mae SPAN yn gweithio a’r gwerthoedd sydd gennym. Mae pob rhodd yn werthfawr ac mae pob person sy’n cefnogi ein gwaith yn rhan o wneud gwahaniaeth. 

Mae lefel y rhodd yn cael ei bennu gennych chi a’r hyn y gallwch ei gyfrannu. Fel diolch am eich cefnogaeth, mae ein holl gefnogwyr yn cael cipolwg digidol arbennig ar y gwaith rydym yn ei gyflawni, y broses greadigol, ein hartistiaid, a’r effaith y mae eich cefnogaeth yn ei chael yn y gymuned. 

Adeiladwch Etifeddiaeth

Trwy adael rhodd yn eich ewyllys, byddwch yn helpu i lunio’r celfyddydau yn Sir Benfro y tu hwnt i’ch oes.

Daw cymynroddion ar bob ffurf, a dim ots pa mor fawr neu fach, drwy addo rhodd yn eich ewyllys byddwch yn ein cefnogi i barhau i ddarparu’r celfyddydau fel cyfrwng ar gyfer newid cymdeithasol am genedlaethau i ddod. Bydd ein cynnwys yn eich ewyllys, nid yn unig yn ein helpu i barhau â’n gwaith i drawsnewid bywydau ein cymunedau drwy’r celfyddydau, ond gallai ddarparu buddion treth i chi, ac mae’n hawdd ei wneud.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnwys Celfyddydau SPAN yn eich ewyllys, neu os hoffech drafod opsiynau ymhellach, cysylltwch â Bethan ein Cyfarwyddwr ar director@span-arts.org.uk.

SPAN Arts
Rhif Cofrestru fel Elusen yng Nghymru a Lloegr:
1088723
Swyddfa Gofrestredig: Rhos y Dref, Arberth, Sir Benfro SA67 7AG

Noddwch SPAN

Mae’r celfyddydau’n rym economaidd pwerus sy’n gyrru busnes, yn creu swyddi ac yn denu pobl i Sir Benfro. Trwy gefnogi Celfyddydau SPAN drwy eich busnes neu gwmni gallwch chwarae rhan sylweddol ym mywiogrwydd yr ardal.

Mae’ch cefnogaeth o SPAN yn dangos eich ymrwymiad i wella ansawdd bywyd i’ch gweithwyr, eich cleientiaid, a’ch cymuned; Mae dyngarwch corfforaethol yn fuddsoddiad yn eich cymuned.

Mae pob achos o noddi yn unigryw, a byddwn yn gweithio gyda phob noddwr i ddiffinio a chytuno ar becyn o fuddion a fydd yn cyflawni eu nodau busnes orau.

Gyda’n rhaglen amrywiol gall SPAN gynnig ystod o fuddion unigryw o

  • Mynediad wedi’i dargedu i’n cynulleidfa amrywiol ar draws y tair sir i wneud y mwyaf o’r amlygiad i’ch busnesau
  • Creu cynnwys y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau positif i gadarnhau enw da eich cwmni
  • Gwobrau staff yn cynnwys tocynnau, profiadau, lletygarwch a chroesawu i’ch helpu i gynnal tîm hapus a chynhyrchiol
  • Hwyluso hyfforddiant creadigol ac adeiladu tîm i fuddsoddi yng nghryfderau a sgiliau’ch staff
  • Mynediad unigryw i artistiaid, a chorau lleol a chynnwys creadigol ar gyfer cyfleoedd broceriaeth a pherfformio
  • Ymgynghoriaeth greadigol a chefnogaeth ymgysylltu â’r gymuned i ddeall y cymunedau y mae eich busnes yn cyffwrdd â nhw
  • Defnyddio’n gofod oriel yn Arberth ar gyfer diwrnodau cwrdd i ffwrdd a digwyddiadau busnes anffurfiol

I gychwyn sgwrs am nawdd cysylltwch â Bethan Touhig Gamble: director@span-arts.org.uk 

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau

Yn ystod ein hanes 30 mlynedd mae Celfyddydau SPAN Arts wedi meithrin perthynas ardderchog gydag ystod o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau lleol a chenedlaethol, ac maent yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a datblygu ein gwaith heddiw.

.Rydym yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yn Sir Benfro – i ysbrydoli a chysylltu pobl, lleoedd a chymunedau gwledig yn greadigol. Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, artistiaid, perfformwyr a chynhyrchwyr i gyd-greu prosiectau a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywydau, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac yn gwella iechyd a lles.

Gweler isod rai enghreifftiau o’n gwaith gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.

Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn/Colwinston Charitable Trust

Yn cefnogi SPAN i gyd-raglennu celf BYW Cymraeg a dwyieithog o ansawdd uchel ar draws Sir Benfro.

“Caiff siaradwyr Cymraeg eu denu i fynychu’r digwyddiadau gan fod cyfansoddiadau ac artistiaid Cymraeg yn cael eu cynnwys…Cyfle i bawb siarad a chyfathrebu yn Gymraeg gan ddenu cynulleidfa o ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn nwyrain Sir Benfro – ardal na all fforddio digwyddiadau o’r fath fawr ddim ond y mae Celfyddydau Span Arts yn ei wneud yn bosibl.”

Sefydliad Teulu Ashley/Ashley Family Foundation

Yn cefnogi SPAN i gynnal Côr Pawb, ein côr cymunedol torfol, ar draws Gorllewin Cymru, sy’n chwalu rhwystrau ac unigedd wrth ddod â phobl o bob oed at ei gilydd drwy ganu.

“Wel rydw i wedi cwrdd â ffrindiau da ac weithiau fyddwch chi ddim yn gweld pobl o un cyfarfod Côr Pawb i’r nesaf, ond wedyn mae’n hyfryd gweld pobl eto a chi’n pigo lan ble adawoch chi bethau a chi wastad yn teimlo’i fod e’n le saff.”

Ymddiriedolaeth Celfyddydau Scops/Scops Arts Trust

Cyllid craidd sy’n ein cefnogi i gyd-greu ein rhaglen gyfoethog o ymgysylltu a digwyddiadau drwy ariannu rôl ein Cynhyrchydd Cymunedol.

 “Pe bawn i heb allu cymryd rhan yng ngweithgaredd SPAN, dw i wir ddim yn credu y byddwn i wedi llwyddo i ddod drwyddo. Mae’r hyn a ddaw i’m bywyd, gydag amgylchiadau fel y maen nhw, heb bris – gall bod yn rhan o bethau roi rheswm i chi fynd ymlaen ac yn dod â’r llawenydd i chi o ffurfio grŵp o gyfeillgarwch, o wneud pethau.”

I drafod cefnogi gwaith SPAN cysylltwch â Bethan Touhig Gamble ar director@span-art.org.uk

I drafod cefnogi gwaith SPAN cysylltwch director@span-art.org.uk

Effaith

Dysgwch fwy am sut mae cefnogwyr yn gwneud gwahaniaeth trwy ddarllen am ein heffaith yma.

Diolch yn arbennig i'n cefnogwyr presennol

Cyllidwyr Craidd

Arts Council of Wales
Welsh Government

Arts Council of Wales

Scops Arts Trust

Cyllidwyr Prosiect

Arts Council of Wales

Arts Council of Wales

The Ashley Family Foundation

BBC Children in need

Children In Need

Hywel Dda Health Board

Pembrokeshire County Council

Levelling Up Campaign

Pembrokeshire Action for Volunteers

Arts for Business Cymru

Cyllidwyr Prosiect

Milford Haven Port Authority

Scroll to Top