Chwedlau’r Normal Newydd / Tales from the New Normal: Finding Me in a Sea of Change

Seilir theatr air am air ar straeon pobl go iawn. Mae’r dramodydd Ceri Ashe wedi bod yn gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir ar draws gorllewin Cymru i gasglu straeon am yr uchaf ac isaf bwyntiau, a’r gwirioneddau o beth mae bywyd yn y normal newydd hwn yn ei olygu iddyn nhw.

Bydd y brithwaith hwn o straeon gwir gan fyfyrwyr ifanc, mamau gweithgar, pensiynwyr a mamguod a thadcuod i restru ond ychydig, yn dod yn fyw y gaeaf hwn drwy gyfrwng Theatr Soffa- prosiect arloesol Celfyddydau Span sy’n cael ei ffrydio’n fyw. O’r cwtsh cyntaf a’r cariad cyntaf at doriadau gwallt a dawnsio fel petai neb yn gwylio, bydd y sioe ingol, gignoeth, a chalonogol hon yn mynd â chi ar daith emosiynol, a’ch symbylu i fyfyrio ar beth mae’r normal newydd yn ei olygu i chi.

Archebwch eich tocyn am ddim yma

Mae Theatr Soffa’n gwmni theatr cymunedol ar-lein sy’n cyflwyno perfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom a hynny yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cafodd y cwmni ei greu’n wreiddiol gan SPAN fel modd creadigol i gysylltu pobl ar draws Sir Benfro a oedd wedi’u hynysu mewn ardaloedd gwledig neu’n gaeth i’w cartrefi a hynny trwy gyfrwng y Celfyddydau a thechnoleg. Hyd yn hyn mae SPAN wedi cyflwyno sawl cynhyrchiad wedi’u ffrydio’n fyw gan gynnwys Dan y Wenallt, Under Milk Wood, Dracula, Nadolig Plentyn yng Nghymru a Lady Windermere’s Fan.

Yn ystod yr Hydref, arweiniodd Ceri Ashe, yr actor, dramodydd, a sylfaenydd y cwmni theatr Cynyrchiadau Popty Ping, ac sy’n enedigol o Sir Benfro, gyfres o sesiynau rhannu ar-lein gyda phobl o bob cefndir ar draws Gorllewin Cymru. Caniatawyd i’r straeon hyn gael  lle i anadlu yn ystod y sesiynau rhannu, ac maen nhw bellach yn sail i Chwedlau’r Normal Newydd. Meddai Ceri: “I mi, mae’r theatr ac adrodd straeon yn fy helpu i brosesu emosiwn, fy nghyflwr iechyd meddwl, a gwneud synnwyr o’r byd … Rwy’n gobeithio dod â rhywfaint o lawenydd, gobaith ac ambell i chwerthiniad o’r bola i wylwyr wrth i ni gyd lywio’r normal newydd rhyfedd yma gyda’n gilydd.” Mae Ceri’n arbenigo mewn theatr air am air ac adrodd straeon o’i phrofiad personol ei hun. Yn Chwefror 2020, fel rhan o raglen SPAN, cyflwynwyd ei sioe Bipolar Me yn Theatr Gwaun- ei sioe gyntaf erioed a gafodd ganmoliaeth fawr ac ennill gwobrau pan gafodd ei pherfformio yn Theatr Etcetera yn Llundain yn 2019 gan werthu pob tocyn. Yn ystod y Cyfnod Clo cafodd Ceri ei chomisiynu gan SPAN i greu  Straeon y Cyfnod Clo :Bara a Babanod Lockdown Tales: Making Bread & Babies a ddisgrifiwyd gan London Theatre 1 i fod ‘wedi’i actio’n dda ac yn argyhoeddiadol iawn, iawn’.

” Ro’n i’n teimlo mod i wedi fy nghau i ffwrdd ond mae’r prosiect wedi rhoi adfywiad llwyr i fi” – Cyfranogwr Theatr Soffa

Mae’r cynhyrchiad cymunedol dewr ac arbrofol hwn wedi bod yn brosiect perffaith i gyfranogwyr, y mwyafrif ohonynt yn byw ar eu pennau eu hunain, yn hŷn, neu’n imiwnoataliedig. Dywedodd yr awdur, cynhyrchydd, dylunydd sain, a chyfarwyddwr Chwedlau’r Normal Newydd  Anna Sherratt: “Mae’r castiau yn wir gefnogi ei gilydd drwyddi draw ac mae’n hyfryd eu gweld yn dod o hyd i lawenydd a phwrpas wrth greu rhywbeth gyda’i gilydd.” Dechreuodd Anna gydweithio gyda SPAN ar ddechrau’r prosiect Theatr Soffa, ac mae’n angerddol am brosiectau sy’n darlunio profiadau byw a wnaed gan, ac ar gyfer, y bobl y maent yn eu cynrychioli. Perfformiodd ei chwmni theatr, Cwmni Ennyn, ei sioe gwobrwyedig sef ‘Roll for Remission / Rholiwch am Wellhad’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar, yn dilyn bywydau pedwar o bobl ifanc â chanser wrth iddynt gychwyn ar gyrch ffantasi gêm fwrdd.

Caiff y perfformiad ei ffrydio’n fyw am 7.30pm GMT Ddydd Iau 15 Rhagfyr trwy ein sianel YouTube. Mae tocynnau am ddim ond nodwch os gwelwch yn dda ei bod yn hanfodol archebu lle ymlaen llaw.

Archebwch eich tocyn yma

Cyflwynir gan actorion proffesiynol a chymunedol, gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Eliot Baron. Gwaith celf gan Deborah Withey. Hyd: 90 munud.

Cefnogir y prosiect hwn yn garedig gan Comic Relief.

Scroll to Top