Gwahoddir pob hŷn ar draws Sir Benfro i gymryd rhan yng ‘Nghôr Pellennig’ SPAN.
Prosiect canu sy’n defnyddio technoleg i ddod â phobl hŷn mewn gwahanol leoliadau at ei gilydd i ganu er mwyn gwella’u hiechyd a llesiant yw’r Côr Pellennig.
Pryd? Ymunwch â Molara ar gyfer sesiwn blasu ar-lein ddydd Gwener Mehefin 25ain am 2yp gyda chyfres o sesiynau wythnosol rheolaidd i ddilyn.
Ble? Ar Zoom yn y lle cyntaf. Rydym yn gobeithio, fodd bynnag, y byddwn yn gallu cynnal rhai sesiynau wyneb yn wyneb gan ddibynnau ar ganllawiau COVID.
Mae hwn yn brosiect a ariennir yn llawn. Cysylltwch â Nia Lewis i gofrestru diddordeb: nia@span-arts-dev.co.uk
Prosiect canu a ddatblygwyd mewn ymateb i’r cynnydd mewn unigrwydd hirfaith a difrifol sy’n rhan o brofiad pobl hŷn yn y DU ac yn enwedig yma yn Sir Benfro lle mae gennym boblogaeth uwch na’r cyfartaledd o bobl oedrannus, lefelau uchel o ynysiad gwledig a chysylltedd gwael.
Cafodd 130 o bobl eu cynnwys, 10 ohonynt yn gaeth i’w cartrefi. Roedd cyflyrrau iechyd yn cynnwys dementia, awtistiaeth, COPD, diabetes, MS, ME ac iselder.
O ganlyniad i ddeugain o sesiynau un-i-un a dau ddigwyddiad dathlu cyrhaeddodd y prosiect ei nodau gyda’r adborth – “yn newid bywydau”, “pwysig” “positif.”
Cafwyd profiadau o gynnydd mesuradwy mewn:
- Llesiant
- Ansawdd bywyd
- Sgiliau digidol
- Cysylltiadau Cymunedol
- Teimladau o werth
- Hyder wrth ganu
Roeddem yn falch iawn pan gafodd y prosiect ei ddefnyddio fel astudiaeth achos ar wefan Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a hefyd ei enwi mewn papur gwybodaeth y GIG
Image credit: Ruth Jones