‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’: Ffilm Fer Ynglŷn â Chreu’r Faled Radio

Ar y 26ain o Dachwedd cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Llwynhirion ym Mrynberian, Gogledd Sir Benfro, i ddathlu diweddglo prosiect PLANED Ein Cymdogaeth Werin Preseli.  Mae Span wedi cymryd rhan annatod mewn gwireddu elfennau creadigol y prosiect dros y tair blynedd diwethaf.  Yn ystod y digwyddiad dathlu cafodd ffilm fer ynglŷn â’r prosiect ei dangos.  Mae’r ffilm yn dogfennu gweithdai cerddoriaeth y prosiect yn benodol yn ogystal â’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau.  

Yn 2018 gweithiodd Span gyda’r arlunwyr Penny Jones a Nia Lewis ar y prosiect Pwytho Straeon oedd yn plethu tecstilau, technoleg ddigidol a threftadaeth er mwyn creu cwilt clytwaith oedd yn llefaru straeon ynglŷn ag ardal Preseli wrth gael ei gyffwrdd.

Dilynwyd hyn yng ngwanwyn 2019 gyda Slam Barddoniaeth Y Preseli,  yn gweithio gyda’r bardd Karen Owen ar gyfres o weithdai ysgrifennu mewn ysgolion a chartrefi pobl gydag uchafbwynt o’r slam barddoniaeth ei hun yn Neuadd Goffa Trefdraeth. 

Ar ddiwedd y prosiect, yr haf yma gweithion ni mewn partneriaeth a Rowan O’Neill a PLANED i gynhyrchu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd a chafodd ei lansio mewn parti gwrando yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021.

Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd. Cafodd y faled radio yma ei chreu mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun rhwng mis Mai a mis Hydref 2021 trwy gyfres o sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gyda deunydd sain yn cael ei recordio ym mhob digwyddiad.

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect gan gynnwys trawsgrifiad llawn o’r faled radio yn yr e-lyfr. Cliciwch yma i ddarllen!

Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o ddolenni i fap y prosiect sydd ar gael ar-lein a dal yn agor i gyfrannu ato. Cliciwch yma i ymweld â’r map! 

Mae’r faled derfynol, awr o hyd, yn tynnu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd yn y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau.  Cafodd y recordiadau eu plethu at ei gilydd yn fedrus gan y cynhyrchydd a golygydd Paul Evans gan ddarlunio bywydau ac ieithoedd byw Bro’r Preselau.

Cliciwch yma i wrando i’r faled gyfan!

Gellir cael copïau CD o’r faled lawn o swyddfeydd Span Arts (The Towns Moor, Moorfield Rd, Arberth SA67 7AG). Cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk neu ffoniwch 1834 869323 i archebu eich copi.

Ariennir Cân y Ffordd Euraidd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin  a oedd yn rhan o’r cynllun Lleoedd Arbennig ac yn ceisio dathlu treftadaeth anniriaethol a thirlun a diwylliant unigryw’r Preselau.

Credydau / Credits

Lleisiau cyfranwyr yn y drefn y’i clywir:

Carolyn Waters, Dyfed Thomas, Sophie Jenkins, Peter Claughton, Eirwyn George, Ysgol Llanychllwydog, Hedydd Hughes, Martin Johnes, Grŵp Treftadaeth Bwlch Y Groes (David Evans, Huw Rees, Terwyn Tomos, Gaynor Evans, Rita Evans), Hefin Wyn, Sally Morris, Stacey Blythe, Norma Brittain, Ewan Rees, Mike Parker Pearson, Shelley Morris, Bill Davies, Huw Jones, Mary Chadwick, Rowan O’Neill, Chris & Patrice Buck, Simon Chatterley, Margaret Daniel, Gwenda Mark, Rhian Medi Jones, Kate Edge, Judith Rees, Sharon Carter, James Purchase

Cerddorion Y Ffordd Euraidd
Arweinydd – Stacey Blythe
Stacey Blythe – llais, harp, accordion, electric piano
Sharon Carter – oboe
Simon Chatterley – voice, guitar and electric piano
Paul Evans – voice
Sophie Jenkins – voice and percussion
Sally Morris – voice
Shelley Morris – voice, drums and percussion
Rowan O’Neill – voice, clarinet and low whistle
James Purchase – voice
Judith Rees – voice, glasses and piano
Carolyn Waters – voice, guitar and percussion

Cantorion Côr Unnos
Rhowan Alleyne, Robert Crosskey, Brian Daniel, Dai Davies, Elaine Davies, Louis Edwards, Annie Evans, Ken Griffiths, Jacqueline Harries, Jill Horwood, Sophie Jenkins, Mary Jones, Keith Leighton, Myfanwy Lewis, John Philip Merrett, Natalie Morgan, Shelley Morris, Rowan O’Neill, Ailsa Richardson, Elizaberth Smart, Valerie Tarrant, Denzil Thomas, Helen Thomas, Sian Elin Thomas, Dr Alun Rhys Williams, Helen Williams, Alan Wills

Arweinydd y Côr Unnos
Margaret Daniel

Cyfeilydd
Rhidian Evans
Gyda diolch i Cyhoeddwyr Curiad, cyhoeddwyr Y Tangnefeddwyr
Geiriau Waldo Williams, Cerddoriaeth Eric Jones

Trwy ganiatâd caredig Y Lolfa ac Eluned Richards ar ran ystâd Waldo Williams

Tîm Cynhyrchu SPAN
Marchnata
Di Ford

Cyfieithu
Margaret Morgan

Recordiwr Sain a Ffilm
Jacob Whittaker

Recordiwr Sain a Chynhyrchydd y Faled
Paul Evans

Cysyniad Creadigol, Recoridiwr Sain a Chynhyrchydd Cymunedol
Rowan O’Neill

Rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Diolch i PLANED
Ein Cymdogaeth Werin Administrator Hedd Harries
Ein Cymdogaeth Werin Community Development Officer Sophie Jenkins

Scroll to Top