Galw Allan am Artistiaid – Straeon  Cariad at Natur 

Dyddiad Cau: Dydd Llun Gorffennaf 26ain

Dyddiad Cau: Dydd Llun Gorffennaf 26ain

Cyflawni: Awst – Medi 2021 

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd artistiaid, cerddorion, ymarferwyr creadigol a/neu gywiethfeydd wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru i greu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect haf Straeon Cariad at Natur. Rydym yn chwilio am ymateb artistig i’r galw ar y celfyddydau i fod o gymorth i gyfrannu at adferiad, llesiant a helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd trwy ddweud straeon sy’n perswadio pobl i ‘syrthio mewn cariad â natur unwaith eto’ ac ysgogi pobl i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau Sir Benfro.

Byddwn yn dewis hyd at bedwar artist i greu ymateb artistig, mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, sy’n arwain at destun sgwrs rhwng artistiaid a phobl Sir Benfro yn ymwneud â natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a llesiant.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, partneriaethau neu gyweithfeydd sy’n gallu ymateb yn greadigol i’r briff a darparu modd i bobl gymryd rhan.

Rydym yn edrych am gynigion amlwedd; yr hyn a olygir gan hyn yw prosiectau y gellir eu cyflwyno ar-lein neu’n wyneb yn wyneb, neu, yn ddelfrydol, cymysgedd o’r ddau, fel y gall cynulleidfaoedd/cyfranogwyr gymryd rhan yn ddigidol neu’n gorfforol, o dan do neu yn yr awyr agored.

Gwahoddir i chi gynnig syniadau yr hoffech eu datblygu gyda’ch gilydd. Bydd y prosiect yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wireddu’ch syniadau’n gyflym neu i dreialu syniadau newydd gyda’r cyhoedd.

Bydd tîm SPAN  yn gwneud pob dim yn syml ac yn:

  • Helpu i gyflawni’r elfen o’r prosiect sy’n wynebu’r gymuned
  • Dod o hyd i leoedd defnyddiol ar gyfer darnau wyneb yn wyneb y prosiect (gofod stiwdio SPAN neu’n pabell fawr newydd ayb)
  • Darparu cefnogaeth ddigidol, defnyddiau ac offer ar gyfer gweithgareddau ymarferol neu ar-lein
  • Trefnu yswiriant a diogelwch COVID
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiect

Rhaid cwblhau’r gwaith i gyd  erbyn diwedd mis Medi 2021 ac ymateb i’r canlynol:

  • adrodd straeon sy’n annog pobl i ‘syrthio mewn cariad â natur unwaith eto’
  • Plannu/hau syniadau creadigol am gynaliadwyedd, adferiad, llesiant a/neu newid hinsawdd
  • Darparu modd i gynulleidfaoedd/cyfranogwyr/buddiolwyr gymryd rhan
  • Arbrofi gyda’r syniad o brosiect celfyddydol ‘amlwedd’

Ffi:  Hyd at £1,000 y comisiwn, yn seiliedig ar gyfradd ddyddiol o £200.

Mae pob ffi yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau defnyddiau.

Ymgeisio

Anfonwch eich cais i info@span-arts-dev.co.uk os gwelwch yn dda gan gyflwyno’ch cynnig na ddylai fod yn fwy nag un dudalen A4, ynghyd â’ch CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu pam yr hoffech ymgymryd â’r prosiect yma ac unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych.

Byddwch cystal hefyd â chynwys dolenni cyswllt i unrhyw enghreifftiau ar-lein o’ch gwaith blaenorol

Y Broses Ddewis

Caiff ymgeiswyr llwyddianus eu dewis trwy ddangos eu cymhwyster ar gyfer y rolau o’u cymharu â’r meini prawf canlynol:

  • Ansawdd y cynnig a’r ymateb creadigol i’r briff (arloesedd, gwreiddioldeb, perthnasedd)
  • Ansawdd ac addasrwydd y gwaith ymgysylltu a gynnigir
  • Profiad (hanes gyrfa artistig, gwaith blaenorol i bontio’r cenedlaethau a gwaith cymunedol)
  • Cyflawnadwyedd (Cynllun y Prosiect a’r gallu i gyflawni)

Mae Span yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bobl amrywiol

I ddarllen polisi preifatrwydd Span dilynwch Privacy – Span Arts (span-arts-dev.co.uk) os gwelwch yn dda.

Os hoffech drafod unrhyw beth cyn ymgeisio ebostiwch info@span-arts-dev.co.uk neu ffoniwch 01834 869323 i drafod yn fwy manwl.

Cyd-destun y Prosiect

Mae SPAN  ar fin cychwyn ar ymgynghoriad cymunedol i ddarganfod beth mae pobl eisiau gan gelfyddydau cymunedol yn Sir Benfro yn y cyfnod ar ôl COVID. Rydym yn awyddus i gychwyn sgwrs ynglŷn â sut fedrith y celfyddydau chwarae rôl drawsnewidiol yn adferiad Sir Benfro a helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd.

Mae Syr Mark Rylance wedi galw ar y celfyddydau i helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd drwy “syrthio mewn cariad â natur unwaith eto” ac annog y Llywodraeth i gefnogi polisïau gwyrddion.

Mark Rylance: “Teimlaf fod rhaid i ni syrthio mewn cariad â natur unwaith eto; rydym yn gwneud pethau anhygoel dros ein gilydd pan fyddwn yn syrthio mewn cariad”.

Dywedodd Rylance er “nid ydym yn brin o wybodaeth am yr hyn y mae angen i ni ei wneud” i helpu’r argyfwng hinsawdd “ mae hefyd gwir angen y celfyddydau arnom i’n hatgoffa sut… yr ydym yn perthyn o’r un teulu â’r…natur o’n cwmpas”.

Yma yn Sir Benfro rydym yn ddigon ffodus i gael ein hamgylchynu gan ryfeddod cyson yr arfordir, y môr a’n hwybrennau enfawr. Credwn mai artistiaid a phobl Sir Benfro sy’n gwybod orau sut i rannu eu cariad at yr amgylchedd mewn modd a fedrith ddylanwadu ar eraill.

Rydym eisiau galluogi artistiaid i hau syniadau newydd  a fydd yn helpu i ni ail-adeiladu yn well ar gyfer y celfyddydau yn Sir Benfro ar ôl COVID.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Argaeledd

Caiff y prosiect ei gyflwyno rhwng Gorffennaf a Medi 2021, yr union ddyddiadau i’w cadarnhau gyda’r ymgeiswyr llwyddianus ar ôl eu recriwtio.

Ffioedd

Mae’r ffioedd i gyd yn cynnwys costau teithio a chostau defnyddiau.

Mae SPAN yn edrych i hau hadau syniadau a sgyrsiau newydd i’n helpu ni i ddeall beth sy’n dod nesaf. Os bydd prosiectau’n dangos y potensial am gynnydd bydd SPAN yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid pellach i wireddu’i weledigaeth artistig.

Cymhwyster

Mae’r briff ar agor i breswylwyr y DU. Rhaid i’r ymgeiswyr llwyddianus fod â thystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyfredol sy’n llai na 12 mis oed.

Scroll to Top