Rhwng 2015-19 bu SPAN yn cyd-gyflwyno’r Parêd Afon Goleuadau blynyddol yn Hwlffordd.
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gan Gofod i Greu a’i gyflwyno mewn partneriaeth â SPAN fel rhan o’r ‘Lab’, prosiect celfyddydau ac adfywiad ar gyfer Hwlffordd, tyfodd y parêd llusernau Afon Goleuadau i fod yn ddigwyddiad ysblennydd a phoblogaidd iawn wedi’i gyflwyno gan SPAN mewn partneriaeth ag eraill.
Mae Hwlffordd wedi mwynhau pedwar parêd llusernau ysblennydd ers 2015 gan ddod â miloedd o bobl at ei gilydd i rannu digwyddiad cofiadwy a dyrchafol ar gyfer y teulu cyfan
Yn fuan iawn daeth y digwyddiad celfyddydol cyfranogol hynod yma’n ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yng nghalendr Sir Benfro gan ddod ag artistiaid a’r gymuned at ei gilydd i greu achlysur i’w gofio wedi’i lunio gan thema neu stori newydd bob blwyddyn.
Sefydlwyd y Parêd Afon Goleuadau i ysbrydoli ymdeimlad o gymuned a pherthyn yn Hwlffordd trwy ddigwyddiad ar raddfa fawr yn dathlu’r afon, y dref sirol, creadigrwydd ei phobl a’i chysylltiad â’r cymunedau arfordirol y mae’n eu gwasanaethu.
Fel rhan o bob parêd cynhaliwyd gweithdai galw heibio i greu llusernau mewn lleoliadau amrywiol yn Hwlffordd ac ar draws y Sir. Daeth cannoedd o bobl, ynghyd ag artistiaid a gwirfoddolwyr, at ei gilydd yn y gweithdai i greu eu llusernau helyg eu hunain i’w cario yn y parêd.
Yn fwy diweddar, yn 2019, cyflwynodd SPAN ‘Dros y Lleuad’ sef parêd i ddathlu’r gofod ac wybren y nos. Ymgasglodd pobl o bob cwr o’r Sir ar Sgwâr y Castell cyn i’r orymdaith ymlwybro yng ngolau llusernau i fyny at Gastell Hwlffordd a oedd wedi’i oleuo ar gyfer yr achlysur. Ar ben hyn cynhaliwyd sinema wedi’i bweru gan bedalau yn Haverhub, hyn yng ngofal ‘Electric Pedals’ ac yn cynnig y cyfle i gysgodi rhag y glaw!
Digwyddiad gwych, yn rhan o’r Prosiect Llawenydd a ‘Confluence’, wedi’i gynnal ar noson Calan Gaeaf yn Hwlffordd.