Rydym yn hurio!

Cynorthwy-ydd Marchnata Digidol Cyfnod Mamolaeth

Mae Celfyddydau Span, elusen celfyddydau cymunedol wedi’i lleoli yn Arberth, Sir Benfro, yn awyddus i recriwtio person brwdfrydig, gweithgar a chreadigol i ymuno â’n tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau Span yn cael eu hyrwyddo mor effeithiol ac eang â phosibl

Byddai’r rôl yn addas i fyfyriwr neu berson graddedig sydd â phrofiad yn WordPress, ynghyd â sgiliau digidol, rhwydweithio cymdeithasol a dylunio gwych a diddordeb yn y celfyddydau.

 

Yn gyfrifol i:              Cyfarwyddwr Celfyddydau Span

Lleoliad:                     Arberth, ar-lein a lleoliadau digwyddiadau

Cyflog:                       £9.50 yr awr yn gyfwerth â £7,410 y flwyddyn (£17,290 FTE)

Oriau:                         15 awr yr wythnos

Contract cyfnod penodol cyfnod mamolaeth

Bydd angen peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau

Gwyliau 5.6 wythnos pro rata yn cynnwys Gwyliau Banc.

Mae Celfyddydau Span yn ymroddedig i gyflawni cydraddoldeb cyfleoedd ym meysydd gwasanaethau i’r gymuned a chyflogi pobl, fel ei gilydd, ac yn disgwyl i bob gweithiwr ddeall a hybu ein polisïau yn eu gwaith.

Mae Celfyddydau Span yn Gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn

DIGITAL MARKETING JOB DESCRIPTION & APPLICANT GUIDANCE NOTES

Please note we will not be accepting CV’s. To apply please download and complete the form below:

SPAN ARTS DIGITAL MARKETING ASSISTANT (MATERNITY LEAVE) – JOB APPLICATION FORM

Am fanylion pellach ac i lawrlwytho pecyn cais ewch i www.spanarts.org.uk neu ebostiwch info@span-arts-dev.co.uk

Dyddiad cau: 9yb ddydd Mercher Medi 29ain 2021

Cyfweliadau: Dydd Mercher Hydref 6ed 2021

Scroll to Top