Ar Nos Sadwrn 6ed Tachwedd cynhaliwyd digwyddiad parti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar gyfer penllanw’r prosiect loteri treftadaeth Cân y Ffordd Euraidd – The Song of the Golden Road.
Mae’r prosiect sydd wedi bod yn rhedeg ers Mai 2021 wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Yn tynnu ysbrydoliaeth o waith Charles Parker, Ewan MacColl a Peggy Seeger a’u baledi radio i ddiwydiant a ffyrdd o fyw eraill a ddarlledwyd ar y BBC ar ddiwedd y 50au a dechrau’r 60au, mae’r prosiect wedi cynnal sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gan recordio deunydd ym mhob digwyddiad. Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau.
Cafodd faled radio, gwaith clywedol estynedig sy’n plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd, ei chreu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd. Mae’r faled derfynol sy’n awr o hyd yn plethu bywydau ac ieithoedd byw ardal y Preselau at ei gilydd yn fedrus.
Yn Nhafarn Sinc ymunodd y cerddor Stacey Blythe, arweinydd y gweithdai cerddoriaeth ar gyfer y faled, â ni unwaith eto gan osod awyrgylch perffaith ar gyfer y noson gyda’i chanu hardd i gyfeiliant y delyn.
Wedyn cafodd y faled ei darlledu trwy system sain y tafarn. Roedd yn brofiad hudol i glywed y faled mewn cwmni am y tro cynta’. Roedd chwerthin, dagrau a chanu ar y cyd hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwybod geiriau’r caneuon!
Ar ddiwedd y rhaglen rhoddodd Hefin Wyn, gair o ganmoliant i’r prosiect a’r rhai hynny oedd wedi creu’r faled a chynnwys y gwaith terfynol. Mae Hefin wedi bod yn gefnogwr brwd o’r gwaith ac yn ymddangos yn y rhaglen hefyd. Dywedodd, ‘Mae’r noson wedi atgoffa dyn i bwy mae dyn yn belongo ‘na air Cymraeg da ontefe, i bwy ‘ych chi’n belongo? To whom do you belong. Yr hiraeth hynny, i bwy ‘ych chi’n perthyn. Ac mae’r faled yma wedi tanlinellu hynny o’r newydd.’
Rydym yn falch o bob un sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect yma ac roedd sawl un yn bresennol yn Nhafarn Sinc gan gynnwys Shelley Morris, Simon Chatterley, James Purchase, Carolyn Waters, Hefin Wyn, Peter Claughton a chynhyrchydd arbennig y faled, Paul Evans. Credydau llawn isod.
Diolch hefyd i staff Tafarn Sinc am ein croesawu ac i Sophie Jenkins a thîm PLANED Ein Cymdogaeth Werin am gadw ffydd yn y prosiect.
Mae’r faled yn chwarae gydag is-deitlau sy’n drawsgrifiad o’r cynnwys. Am gapsiynau Saesneg ar gyfer y darnau Cymraeg cliciwch CC a dewiswch ‘English’.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect gweler Map y Ffordd Euraidd.
Gellir cael copïau CD o’r faled lawn o swyddfeydd Span Arts (The Towns Moor, Moorfield Rd, Arberth SA67 7AG). Cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk neu ffoniwch 1834 869323 i archebu eich copi.
Mae Cân y Ffordd Euraidd wedi’i chyflawni gan Rowan O’Neill a Chelfyddydau Span mewn partneriaeth gyda PLANED fel rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Lluniau gan Jacob Whittaker
Credydau / Credits
Lleisiau cyfranwyr yn y drefn y’i clywir / Contributor voices in the order they are heard
Carolyn Waters, Dyfed Thomas, Sophie Jenkins, Peter Claughton, Eirwyn George, Ysgol Llanychllwydog, Hedydd Hughes, Martin Johnes, Grŵp Treftadaeth Bwlch Y Groes (David Evans, Huw Rees, Terwyn Tomos, Gaynor Evans, Rita Evans), Hefin Wyn, Sally Morris, Stacey Blythe, Norma Brittain, Ewan Rees, Mike Parker Pearson, Shelley Morris, Bill Davies, Huw Jones, Mary Chadwick, Rowan O’Neill, Chris & Patrice Buck, Simon Chatterley, Margaret Daniel, Gwenda Mark, Rhian Medi Jones, Kate Edge, Judith Rees, Sharon Carter, James Purchase
Cerddorion Y Ffordd Euraidd / Golden Road Musicians
Arweinydd – Stacey Blythe
Stacey Blythe – llais, harp, accordion, electric piano
Sharon Carter – oboe
Simon Chatterley – voice, guitar and electric piano
Paul Evans – voice
Sophie Jenkins – voice and percussion
Sally Morris – voice
Shelley Morris – voice, drums and percussion
Rowan O’Neill – voice, clarinet and low whistle
James Purchase – voice
Judith Rees – voice, glasses and piano
Carolyn Waters – voice, guitar and percussion
Cantorion Côr Unnos / Scratch Choir Singers
Rhowan Alleyne, Robert Crosskey, Brian Daniel, Dai Davies, Elaine Davies, Louis Edwards, Annie Evans, Ken Griffiths, Jacqueline Harries, Jill Horwood, Sophie Jenkins, Mary Jones, Keith Leighton, Myfanwy Lewis, John Philip Merrett, Natalie Morgan, Shelley Morris, Rowan O’Neill, Ailsa Richardson, Elizaberth Smart, Valerie Tarrant, Denzil Thomas, Helen Thomas, Sian Elin Thomas, Dr Alun Rhys Williams, Helen Williams, Alan Wills
Arweinydd y Côr Unnos
Margaret Daniel
Cyfeilydd
Rhidian Evans
Gyda diolch i Cyhoeddwyr Curiad, cyhoeddwyr Y Tangnefeddwyr
Geiriau Waldo Williams, Cerddoriaeth Eric Jones
Tîm Cynhyrchu SPAN
Marchnata / Marketing
Di Ford
Cyfieithu / Translation
Margaret Morgan
Recordiwr Sain a Ffilm / Sound Recorder and Film
Jacob Whittaker
Recordiwr Sain a Chynhyrchydd y Faled / Sound Recorder and Ballad Producer
Paul Evans
Cysyniad Creadigol, Recoridiwr Sain a Chynhyrchydd Cymunedol / Creative Concept, Sound Recorder and Community Producer
Rowan O’Neill
Rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Part of the Preseli Heartlands Project funded by the National Lottery Heritage Fund.
Diolch i PLANED
Ein Cymdogaeth Werin Administrator Hedd Harries
Ein Cymdogaeth Werin Community Development Officer Sophie Jenkins