Creu, Gwylio a Gwneud
Creu
-
Eco BrintioGyda Kate KekwickDysgwch sut i brintio â sgrin gan ddefnyddio defnyddiau naturiol yn unig gyda’r darlunydd Kate Kekwick. Byddwch yn cynhyrchu print deuliw gan ddefnyddio stensiliau papur a phastau printio naturiol.
-
Creu’ch fideo cyfarwyddol eich hunGyda’r artist ac animeiddwraig Gemma Green-HopeAr gyfer chi gyw animeiddwyr i gyd!
-
Angenfilod Broc MôrGyda’r cynllunydd a gwneuthurwraig pypedau Di FordGweithgaredd hwyl a hawdd i’r teulu cyfan ei fwynhau
-
Peintiwch feidrgyda Guy ManningGuy Manning yn arwain arddangosiad o beintio’r feidr sydd i’w gweld o’i ddrws ffrynt. Myfyrdod hynaws ar gyferbyniad, arlliw a thôn. Cynhaliwyd y gweithdy ar Fai 16eg 2020.
-
Creu bocs anrhegGyda’r gwirfoddolwraig Ann MaidmentFel rhan o’n Prosiect Caredigrwydd, Dangoswch e. Rhannwch e.
-
Tiwtorial pyped aderyn marionétGyda’r cynllunydd a gwneuthurwraig pypedau Di FordGan ddefnyddio defnyddiau o’r cartref byddwch yn dysgu sut i greu’r cymeriad bach hapus yma a dod yn grëwr pypedau!
-
Cynllunio a chreu clytiau gweuedigGyda’r artist tecstilau Nia LewisDewch i greu clytiau gweuedig unigryw ar gyfer eich prosiectau cwiro neu i uwchgylchu dillad neu decstilau’r cartref.
❱
❰
Gwylio
-
Pererin Wyf
Is Oilithreach Mé
I am a pilgrimSeinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân
Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace. Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i'r prosiect. Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio'n fyw ar-lein hefyd. Map Caneuon y ‘Diaspora’ -
Gwyliwch y ffilm fer yma am y broses o greu Can y Ffordd EuraiddGwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd.
-
Gwrandewch Nawr: Baled Radio Cân y Ffordd EuraiddA radio ballad, an extended sound piece weaving together oral speech, ambient sound, traditional songs and newly created music and lyrics was created from the rich and deep material recorded.
-
Theatr SoffaCwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.Mehefin 2020 - PresennolCwmni theatr cymunedol newydd yw Theatr Soffa yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn y Gymraeg ac yn Saesneg
-
Y BaghdaddiesAr Fehefin 13eg fe ynunon ni â’r Baghdaddies ar gyfer gig dethol wedi’i recordio o flaen llaw. Yn ogystal â’r traciau a recordiwyd yn unswydd i Span, ymunodd y band â ni ar y ‘Chat’ i godi’r galon ac i sgwrsio â’r gynulleidfa.
-
Memortal/CofioProsiect ymchwil a datblygu cydweithredol wedi’i arwain gan SPAN oedd Memortal/Cofio, yn rhan o Span Digidol – cyfres o brosiectau peilot i roi ar brawf sut y gellid defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac ynysiad.
-
Black VoicesFfrydiwyd yn fyw ar Hydref 30ain 2020Wedi’i ffurfio ym 1987 gan eu Cyfarwyddwr Cerddorol Carol Pemberton MBE, mae Black Voices wedi ennill clod fel pumawd a cappella merched gorau Ewrop.
-
Perfformiad byw gartref gyda Lowri EvansFel rhan o’n cyfres ar-lein o gerddoriaeth fyw gartref, Natalie Holmes yn cefnogi Lowri Evans a Lee Mason mewn noson o gerddoriaeth acwstig hyfryd.
-
Yn fyw gartref gyda Bardd gyda chefnogaeth gan EädythBîtbocs, lwpio byw arloesol, calimba trydan, ffidil gwerin, organ jazz, gîtar y felan a’r gair llafar. Y bît bocsiwr dwyieithog Mr Phormula gyda’r bardd ac awdur geiriau Martin Davies yn arloesi mewn ymdoddiad newydd o gerddoriaeth sy’n archwilio prosesau traddodiadol a modern.
-
Noson Gartrefol Nadoligaidd SPANGwyliwch ein noson Nadoligaidd pan fwron ni olwg yn ôl a dathlu holl weithgareddau Span yn 2020.
-
We are not aloneYm mis Hydref 2019 teithiodd Clwb Digi Span Digidol i Ysgol Gynradd Aber Llydan i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar animeiddiad byr i’w ddangos yn ystod Parêd Llusernau Hwlffordd, ‘Dros y Lleuad’.
-
Côr Pawb – Lean on MeCôr rhithiol gyda rhai o aelodau o Gôr Pawb a ddaeth at ei gilydd yn ystod Hydref 2020.
-
Straeon AffricanaiddCynhaliodd Molara, y gantores ac ymarferydd y celfyddydau, y chwedleuwr Phil Okwedy a’r bardd Eric Ngalle Charles, gyfres o weithdai dros alwadau fideo yn archwilio cysylltiadau Cymru â chyfandir Affrica.
❱
❰
Gwneud
-
Theatr SoffaCwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.Mehefin 2020 - PresennolCwmni theatr cymunedol newydd yw Theatr Soffa yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn y Gymraeg ac yn Saesneg
-
Straeon Cariad at NaturComisiwn celfyddydau amgylcheddolMehefin 2023 - Chwefror 2024Gwnaethon wahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i anfon eu syniadau atom ar gyfer gwaith newydd fel rhan o'n comisiynau Straeon Cariad at Natur.
Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i'r ysbardun Yr Amgylchedd. -
Map Digi PenfroMae'r Map yn cofnodi natur, gwyddoniaeth, celf, hanes a barddoniaeth. Mae pwyntiau wedi eu gosod gan bobl hen ac ifanc ac yn y canol, gyda'u hatgofion, eu gwybodaeth a'u syniadau. Gallwch chi ychwanegu rhai hefyd.
❱
❰