Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân
Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.
Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i’r prosiect. Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio’n fyw ar-lein hefyd.
Map Caneuon y ‘Diaspora’
Cynsail sylfaenol y prosiect oedd gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu fersiwn o’r gân hon neu unrhyw gân sydd â’r gallu i’ch galw chi nôl adre ac i binio’r recordiad hwnnw i’n map ar-lein.
Croeso i chi binio cân eich hun i’r map – ewch i’r map i ddarganfod sut y gallwch.
Dyma rhai enghreifftiau o’r emyn yn cael ei ganu gan ein cyfranwyr:
William Williams, Pantycelyn – An introduction
Côr Cymry Gogledd America
Côr Pawb
Côr Meibion Llanymddyfri
Karen Owen
Chord on Blues, Côr Cymunedol Ferns
Caneuon i alw chi adre
Mae ‘na sawl cân arall ar y map. Dyma rhai caneuon sydd wedi cael ei binio:
Rosemary Graham – One More Step
Bernadette Hayes – Pilgrim of Life
Anne Mulhall – The Old House
An Dara Craiceann
An Dara Craiceann (Cy. Yr ail groen) is a new macaronic song written in response to the project by Wexford based traditional singer and project co-facilitator Rachel Uí Fhaoláin. A macaronic song is one that features more than one language, in this case Irish, Welsh and English. The song was given its first performance by the London Irish Community Voices Choir at an online celebration event on 24th May 2023.
Dyma ychydig mwy am y gân:
“The title and lyrics are in response to my observations of the Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim project participants, and the exchange visits between Ireland and Wales. The song reflects the understandings of pilgrimage and what it can unlock from beneath the surface, as we journey through life. I also wanted to bring my traditional song & folkore practice into this new work. One of my favourite songs to sing with my two children, Éire and Chulainn, is An Mhaighdean Mhara – The Mermaid. The story of a woman losing her seal skin and marrying a man is found in the oral tradition in Ireland and beyond. An Mhaighdean Mhara is a sorrowful lament, and the conversation is between a mother and her daughter. The mother is returning to the sea from whence she came. In this new song, I hear their voices and the draw they both feel to their ‘homes’. Their voices speak of the journey of so many others. I hope the lyrics speak of the shedding of ‘skin’ too. I was also particularly interested in highlighting the female perspective in this new song. The folklore surrounding the mermaid, I felt, was a lovely way to connect both the Wexford and Welsh diasporas through song and stories, and including both the Irish and Welsh language was also very important to me. The air I used is from another beautiful song that we enjoy singing together as a family; a Wexford song of emigration called ‘Bannow Mother’s Lament’. I also interweaved a section of the old Welsh hymn Pererin Wyf into the new song. All the individual pieces seemed to stitch together seamlessly.”
An Dara Craicean – Ffilm gan John Ó Faoláin
An Dara Craicean – gydag arwyddo BSL Cymraeg
An Dara Craicean – gydag arwyddo Gwyddelig
Pererin Wyf – Y Canu Mawr – The Big Sing!
Dathliad o’r prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé oedd Y Canu Maer gan gynnwys rhaglen fer o gân bererindod wedi ei pherfformio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi gan Côr Pawb, côr cymunedol SPAN a pherfformiad o gân newydd An Dara Craiceann (cy. Yr Ail Groen) a ysgrifennodd gan Rachel Uí Fhaoláin mewn ymateb i’r prosiect. Daeth y digwyddiad i ben gyda chanu mawr a Cappella o’r emyn ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn. Gwahoddwyd pawb oedd yn bresennol i ymuno yn y gân.
Trefnwyd yr emyn ar gyfer y digwyddiad gan arweinydd Côr Pawb, Molara Awen.
Ffrydiwyd y digwyddiad yn fyw o Dyddewi ar Fai 29ain. Gallwch weld recordiad o’r ffrwd fyw yma.
Pererin Wyf – Is Oilithreach Mé – I am a Pilgrim: Ffilm ddogfen
Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.
Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.
Cynsail sylfaenol y prosiect oedd i wahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu unrhyw gân sydd o arwyddocâd penodol i’r cyfranwyr ac i thema’r prosiect ac i binio recordiad hwnnw i’n map ar-lein.
Mae’r ffilm ddogfen fer hon, sef cydweithrediad rhwng Rowan O’Neill, y cynhyrchydd radio Paul Evans a gwneuthurwr ffilm Jacob Whittaker yn adrodd hanes y prosiect.
Siaradwyr o safon fyd-eang
Cychwynodd prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ym mis Medi 2022 gyda cyfres o weithdai arlein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân.
Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim
Cychwynodd prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ym mis Medi 2022 gyda cyfres o weithdai arlein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân.
Cafodd y gweithdai ei recordio. Dyma gyfres o ddetholiadau o’r sesiynau. Mae’r sesiynau llawn wedi pinio i’r map hefyd.
Yr Athro E Wyn James – A’i Chymru yw gwlad y gân?
Cychwynnodd y prosiect ar y 29ain o Fedi gyda chyflwyniad i weithredoedd y prosiect a sgwrs gyda’r Athro hanes E Wyn James oedd yn sôn am gyd-destun fywyd a gwaith William Williams Pantycelyn, awdur yr emyn sydd wedi ysbrydoli’r prosiect, Pererin Wyf.
David Greenslade – ‘Welsh Fever’
Cynhaliwyd ail sesiwn Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ar y 14eg o Hydref pan gyflwynodd yr awdur David Greenslade ei brofiadau o bererindod Fwdhaidd, byw a theithio ymhlith y diaspora Cymreig yng Ngogledd America ac yn nawr byw ar y stryd lle ganwyd ef tra hefyd yn byw dramor. Soniodd David am ganfyddiadau am Gymru o bell i ffwrdd a’r uchel ac isel bwyntiau ail-brofi Cymru fel taith o ddychwelyd tragwyddol.
Gareth Bonello – Arddull Pantycelyn
Cynhaliwyd y drydedd sesiwn o Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ar y 27ain o Hydref gyda chyflwyniad gan y cerddor a chanwr Gareth Bonello. Rhannodd Gareth ei brofiad o recordio cerddoriaeth a gweithio gyda cherddorion yn Meghalaya, Gogledd Ddwyrain India. Ysbrydolwyd y gwaith yma gan y genhadaeth Fethodistaidd Gymreig a deithiodd i Meghalaya yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fynd â’u hemynau gyda nhw gan gynnwys emynau William Williams, Pantycelyn.
Pamela Petro – Hiraeth as creative impulse
Cynhaliwyd pedwerydd sesiwn Pererin Wyf ar y 10fed o Dachwedd gyda chyflwyniad gan yr awdur Pamela Petro sy’n ysgrifennu,
Mae pob pererindod (hyd yn oed y rhai nad ydych chi’n gwybod eich bod chi arnynt) hefyd yn gwest.
Cysylltodd Pamela â thema Pererindod o fewn, i, a thu allan i Gymru trwy lens ‘hiraeth’ gair sy’n hynod o anodd ei gyfieithu i iaith arall..
Catherine Dunne – Nac un peth na’r llall
Cynhaliwyd y bumed sesiwn Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ar y 24ain o Dachwedd pan rannodd yr awdur Catherine Dunne ei phrosiect ymchwil degawdau o hyd ‘The Irish in London: an Unconsidered People’. Ar daith dros y môr yn 1986 cychwynnodd Dunne sgwrs gyda menyw oedd wedi gadael Iwerddon yn y pumdegau. Soniodd hi am unigrwydd yr ymfudwr cyndyn. Arweiniodd y sgwrs honno at gannoedd mwy mewn ceginau, canolfannau Gwyddelig a chaffis, cyfres o gyfweliadau yn archwilio bywyd beunyddiol pobl yn byw yn Llundain, dinas anghyfarwydd, a arweiniodd at astudiaeth hyd llyfr Dunne.
Yr Athro Helen Phelan – Canu’r defod i berthyn
Cynhaliwyd y chweched sesiwn o Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ar yr 8fed o Ragfyr 2022 pan gyflwynodd yr Athro Helen Phelan o brifysgol Limerick ei gwaith o brofiad dwfn sy’n dadlau dros rôl arbennig canu i greu a dathlu cymunedau. Mae Phelan yn cynnig bod cân mewn cyd-destun defod yn cynnig addewid o gorffori heb ddileu rhoddion unigryw, dyheadau a diwylliant.
Rachel Uí Fhaoláin and John Ó Faoláin – Llwch Garmon
Cynhaliwyd y seithfed sesiwn o Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ar yr 12fed o Ionawr 2023 pan gyflwynodd y gantores draddodiadol Rachel Uí Fhaoláin a chrëwr ffilm John Ó Faoláin eu gwaith gyda chân a chwedlau yn Llwch Garmon a thu hwnt. Roedd Rachel a John yn gyd-hwylusydd ar gyfer y prosiect Pererin Wyf yn Llwch Garmon.
Cyfnewid Diwylliannol
Parhaodd gweithgareddau yn y gwanwyn gyda gweithdai rhannu straeon a chaneuon a thrip cyfnewid rhwng y ddwy wlad.
Cyfranwyr Trip Cyfnewid Pererin Wyf yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda Swyddog Pererindod, Janet Ingram
Cyfranwyr Trip Cyfnewid Pererin Wyf yn cymryd rhan yn y symposiwm pererindod Gwesty Waterfront, Enniscorthy
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio gan Rowan O’Neill mewn cydweithrediad a Chelfyddydau Span ac wedi ei gyd-hwyluso gan gasglwyr caneuon a straeon digidol artistiaid Gwyddelig wedi’u lleoli yn Wexford, Rachel Uí Fhaoláin o Ceol Mo Chroí a John Ó Faoláin o’r Sianel Archif Traddodiadol, a’r artist sain a chrewr ffilm o Orllewin Cymru Jacob Whittaker. Mae trefniant yr emyn gan Molara Awen a’r codio gan Alan Cameron Wills. Trac sain y ffilm terfynol gan Paul Evans.
Croeso i chi ychwanegu eich cyfraniadau eich hun at y map. Ewch i’r map i ddarganfod sut.
Mae’r prosiect Pererin Wyf yn rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.