Mae’r prosiect hwn bellach wedi gorffen. Gallwch wrando i’r faled gyfan yma!
Cyfweliadau: Dydd Gwener 23ain Gorffennaf
Rydym yn gwahodd cynhyrchwyr sain/cerddoriaeth/radio sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i weithio ar faled radio ddwyieithog wedi’i chyd-greu, sef Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road, rhan o brosiect PLANED ‘Ein Cymdogaeth Werin’ a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a gynhyrchir gan Span.
Mae tair elfen i’r briff:
- Ffi recordio sain a cherddoriaeth £1,000
- Ffi cyfansoddi cân/creu cerddoriaeth gymunedol £1,800 (3 x 600)
- Ffi Cynhyrchu Baled Radio a Digwyddiad Darlledu £2,500
Mae’r ffioedd yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau deunyddiau.
Er y gellir ymgeisio am bob elfen ar wahân, rydym yn agored i geisiadau gan unigolion, partneriaethau neu gydweithfa sy’n gallu cyflawni’n greadigol cyfuniad o rai, neu bob un, o’r elfennau o’r briff a amlinellir isod:
Recordio Sain a Cherddoriaeth
Ffi £1,000 5 diwrnod @ £200.00 y diwrnod yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau deunyddiau.
Rydym yn chwilio am recordiwr sain profiadol sydd â’i offer recordio ei hun i fynychu’r gweithdai cymunedol sy’n weddill ar gyfer Cân y Ffordd Euraidd er mwyn recordio cynnyrch sain y diwrnodau hyn gan gynnwys taith gerdded dywysedig ar draws y Ffordd Euraidd. Trefnwyd y gweithdai ar gyfer Gorffennaf 31ain, ac Awst 14eg ac 21ain a byddant yn cynnwys cymysgedd o recordio dan do ac yn yr awyr agored. Caiff y cynnwys a gaiff ei recordio ei ddefnyddio i greu’r faled radio derfynol.
Bydd y recordiwr sain hefyd yn gweithio gyda Chynhyrchydd Cymunedol Span a Chynhyrchydd y Faled Radio i recordio cerddoriaeth a cneuon a gaiff eu creu a’u perfformio yn ystod penwythnos Jam Preseli ar ddiwedd Medi 25/26. Lleoliad i’w gadarnhau ond yn debygol o fod ym Mrynberian.
Creu cerddoriaeth / cyfansoddi caneuon cymunedol
Rydym yn chwilio am gerddorion â phrofiad o arwain gweithdai cymunedol i ysgogi pobl sy’n cymryd rhan mewn sesiynau creu cerddoriaeth a chyfansoddi caneuon fel rhan o ŵyl fach yn debyg i ysgol haf sydd wedi’i threfnu ar gyfer penwythnos olaf mis Medi (25ain a 26ain) ym Mrynberian.
Caiff ymgeiswyr llwyddianus eu gwahodd i gymryd rhan mewn taith gerdded ar hyd y Ffordd Euraidd ar Awst 21ain 2021 ynghyd â’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect, a chânt fynediad at y deunyddiau a gesglir fel rhan o gyfnod ymchwil y prosiect trwy gyfrwng map rhyngweithiol y prosiect:
http://j.mp/canyffordd
Yna gofynnir iddynt ddefnyddio’r profiad a’r deunyddiau fel ysbrydoliaeth i lunio cerddoriaeth a chaneuon a gaiff eu recordio yn ystod Gŵyl Jam Preseli mewn cydweithrediad â mynychwyr yr Ŵyl a’r rhai sy’n rhan o’r prosiect, sy’n debygol o gynnwys amrywiaeth eang o brofiad ac oedrannau. Yna, bydd y recordiadau’n ffurfio rhan o’r faled radio.
Rydym yn rhagweld cyflogi tri cherddor am ffi o £600.00 (3 diwrnod @ £200 y diwrnod) yr un, ond rydym yn agored i gynigion eraill. Efallai byddai ymgeiswyr yn ystyried gweithio ar gân
draddodiadol sy’n gysylltiedig â’r ardal ac i gân newydd gael ei llunio, ymarfer a recordio gan gyfranogwyr yn ystod penwythnos Jam Preseli, Cân y Ffordd Euraidd. Bydd uchafswm o 30 yn cymryd rhan yn y gweithdy. Byddwn hefyd yn gofyn i ymgeiswyr berfformio mewn gig fel rhan o’r penwythnos.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos rhesymeg glir am gynnwys, ac ymgysylltu â, dawn gerddorol a chreadigrwydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect, yn eu cynnig.
Cyfanswm y ffi ar gyfer elfen yma’r briff fydd £1,800 yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau deunyddiau.
Cynhyrchu Baled Radio a Digwyddiad Darlledu
Ffi £2500 12 diwrnod @ £250.00 y diwrnod yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau deunyddiau.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd sain/cerddoriaeth/radio hynod greadigol sydd â phrofiad eang a‘r gallu i weithio mewn lleoliadau cymunedol, Bydd rhaid iddynt fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ofynion y prosiect.
Caiff y prosiect ei gyflwyno rhwng Awst a Thachwedd 2021, dyddiadau i’w cadarnhau unwaith y caiff rolau eu recriwtio.
Disgwylir i’r cynhyrchydd sain/radio weithio ochr yn ochr â Chynhyrchydd Cymunedol Span i greu a golygu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd o ddeunyddiau a gesglir yn ystod Cyfnod 1 y prosiect: gweithdai mapio cymunedol, a Chyfnod 2: cerddora cymunedol/gweithdai Jam Preseli.
Bydd y cynhyrchydd sain/cerddoriaeth/radio yn gweithio gyda’r Cynhyrchydd Cymunedol, y Recordydd Sain, a Cherddorion Cymunedol i sicrhau fod sain o’r ansawdd uchaf yn cael ei gipio yn ystod penwythnos Jam Preseli (Medi 24/25).
Bydd y cynhyrchydd sain/cerddoriaeth/radio yn gweithio hefyd gyda’r Cynhyrchydd Cymunedol i olygu’r deunydd a nodwyd a’u casglu’n barod yn ystod cyfnod cyntaf y prosiect i greu’r faled radio derfynol. Rydym yn rhagweld y bydd y faled derfynol Cân y Ffordd Euraidd tuag awr mewn hyd ac yn cynnwys o bosib dwy faled hanner awr, un yn Saesneg ac un yn Gymraeg – y fersiwn awr yn gyfuniad o’r ddwy.
Bydd y cynhyrchydd radio, ochr yn ochr â’r Cynhyrchydd Cymunedol, yn helpu hefyd i grefftio digwyddiad cyhoeddus ar gyfer y faled radio orffenedig a fyddai, yn ddelfrydol, yn cynnwys elfen o ddarllediad byw. Cynhelir hyn ar ddiwedd y prosiect ym mis Hydref 2021, y dyddiad i’w gadarnhau.
Ymgeisio
Cyfeiriwch eich cais at rowan@span-arts-dev.co.uk os gwelwch yn dda, gan anfon CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu paham yr hoffech ymgymryd â’r prosiect, unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych a sut rydych chi’n bwriadu mynd ati i gyflawni’r briff. Os ydych chi’n gwneud cais am y briff llawn, cadarnhewch os gwelwch yn dda eich bod hefyd yn hapus i gael eich ystyried am elfennau unigol.
Byddwch cystal hefyd â chynnwys dolennau cyswllt i enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol sydd ar-lein.
Cyd-destun y Prosiect
Bydd Cân y Ffordd Euraidd yn creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun. Y Ffordd Euraidd yw’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt. Bydd y prosiect ar ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y ffordd euraidd ei hun. Bydd y sesiynau cychwynnol hyn yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, gan ddilyn gwahanol themau ac i ddarganfod a chwilota i’r ‘pethe’ sy’n bwysig i bobl am y lle. Bydd teithiau cerdded gweithdy yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr a wahoddir, cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau. Dilynir y crwydradau gan benwythnos dwys o gerddora pan wahoddir y rhai sy’n cymryd rhan a cherddorion i roi llais i ganeuon y lle. Yna caiff llais, sain a chân eu hymgorffori i’r faled radio derfynol, cofnod llafar o le unigryw, un y bydd y cenedlaethau i ddod yn gallu eu gwerthfawrogi a’u mwynhau am flynyddoedd yn y dyfodol.
Mae’r prosiect yn ymateb i ddau faes prosiect PLANED ‘Ein Cymdogaeth Werin’ a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r Cynllun Lle Gwych, sef Llwybrau at Wreiddiau ac Ein Hamgueddfeydd. Nod Llwybrau at Wreiddiau yw dod â phobl ynghyd i archwilio a chanfod treftadaeth gyffyrddadwy ac anghyffyrddadwy, gweithgareddau treftadaeth a diwylliannol heddiw ac yn y gorffennol, a digwyddiadau, yn ogystal â sgiliau treftadaeth sydd mewn bodolaeth a bylchau mewn sgiliau. Bydd deunydd a ymchwilir yn ffurfio sylfaen i ddehongli treftadaeth gyda gwahanol gymunedau yn creu cynnyrch penodol er mwyn dathlu eu hanes lleol; nod Ein Hamgueddfeydd yw archwilio cysyniad amgueddfeydd yn ôl y profiad traddodiadol ohonynt er mwyn darganfod ffyrdd newydd a chyfannol o gyflwyno treftadaeth leol, hyn yn arbennig o gofio natur wledig yr ardal.
Rheoli
Caiff y prosiect ei reoli gan Gelfyddydau Span mewn partneriaeth â PLANED a fydd yn:
- Trefnu grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn y prosiect
- Darparu cefnogaeth gan wirfoddolwyr lle bo angen
- Darparu yswiriant cyfrifoldeb cyhoeddus ar gyfer y digwyddiad terfynol
- Rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiect
- Cefnogi’r ymgeiswyr llwyddiannus i gyflawni’r briff
Argaeledd
Caiff y prosiect ei gyflwyno rhwng Awst a Thachwedd 2021, yr union ddyddiadau i’w cadarnhau gyda’r ymgeiswyr llwyddianus pan gânt eu recriwtio. Bydd rhaid i’r ymgeiswyr llwyddianus fod ar gael ar Awst 21ain 2021 i fynd ar daith gerdded ar hyd y Ffordd Euraidd a fydd yn nodi diweddglo’r gweithdai mapio cymunedol a chychwyn y cyfnod canu/cerddora.
Ffioedd
Mae pob ffi yn cynnwys TAW, costau teithio a chostau deunyddiau.
Cymhwyster
Mae’r briff yn agored i breswylwyr y DU. Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddianus fod yn ddeiliaid Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n llai na 12 mis oed.
Y Broses Ddewis
Caiff yr ymgeiswyr llwyddianus eu dewis trwy ddangos eu cymhwyster ar gyfer y rolau o gymharu â’r meini prawf canlynol:
Ansawdd y cynnig ac ymateb creadigol i’r briff (arloesedd, gwreiddioldeb, perthnasedd)
Ansawdd ac addasrwydd y gwaith ymgysylltu a gynnigir
Profiad (hanes celfyddydol blaenorol, gwaith cymunedol a gwaith i bontio’r cenedlaethau a wnaethpwyd yn flaenorol)
Gallu i gyflawni (cynllun y prosiect a’r gallu i’w gyflawni)
Mae Span yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bobl amrywiol.
I ddarllen datganiad polisi preifatrwydd dilynwch y ddolen gyswllt https://span-arts-dev.co.uk/cy/hysbysiadau-preifatrwydd/
Gwybodaeth Arall
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddianus fod a’u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus eu hunain hyd at £5,000,000
Mae’r mynediad at gerbyd a thrwydded yrru lawn y DU yn ddymunol am fod yr ardal yn ddiarffordd iawn.
Mae’r prosiect yn un dwyieithog ac mae’r gallu i weithio yn Saesneg a’r Gymraeg fel ei gilydd yn hanfodol.
Os hoffech chi drafod unrhyw beth cyn gwneud cais anfonwch e bost at rowan@span-arts-dev.co.uk
Neu ffoniwch 01834 869323 i drafod yn fwy manwl.
Nodiadau
Fformat rhaglen ddogfen sain a grewyd gan Ewan MacColl, Peggy Seeger a Charles Parker yn y 1950au yw’r faled radio. Gan gyfuno, yn wreiddiol, pedair elfen: canu, cerddoriaeth offerynol, effeithiau sain a recordiadau lleisiau’r rhai sy’n destun y rhaglen ddogfen, ail-ymwelwyd â’r fformat gan y BBC yn 2006 ac eto yn 2012 yn profi gallu parhaol y fformat i ddenu, hysbysu ac ysbrydoli. Gweler y dolenni cyswllt isod am enghreifftiau:
The Big Hewer
https://www.youtube.com/watch?v=mf7LuLSJBLM
The Travelling People
https://www.youtube.com/watch?v=6GehYE1c9tc&t=1007s
Lonely Distance Runner