
Sut i recordio’ch ac uwchlwytho eich cân
Mae prosiect Pererin Wyf o Span Arts yn gwahodd pobl ar draws y byd i recordio eu caneuon am deithio, perererindod a chartref, a’u hychwanegu at fap y prosiect.
Rhowch eich cân ar y map:

Recordio eich cân

Uwchlwytho’r recordiad

Rhowch e ar y map
1. Recordio eich cân
Dyma gwpl o awgrymiadau
Beth sydd tu ôl i chi? Yn gyntaf mae’n werth meddwl am eich lleoliad a beth y gallwch weld yng nghefndir eich llun.
Tawel: Meddyliwch hefyd ynglŷn â’r sŵn sydd o’ch cwmpas. Ydych chi mewn lle swnllyd neu leoliad tawel?
Os mae’n wyntog iawn bydd eich meicroffon yn dal y sŵn yma. I helpu gyda hyn gallwch ddefnyddio meic sy’n plygio mewn gyda sgrin rhag y gwynt.
Batri: Gwnewch yn siwr bod digon o fatri ‘da chi. Dydych chi ddim eisiau iddo redeg allan yng nghanol recordio eich cân.

Fformat tirwedd: Hoffwn i chi recordio eich cân ar ffurf tirlun hynny yw gyda’r ffôn ar ei ochr.
Modd ayrwen: Byddai’n syniad da i roi eich ffôn ym modd ‘awyren’ er mwyn gwneud yn siwr nad ydych yn derbyn unrhyw hysbysebion i darfu arnoch chi yn ystod recordio.
Gofynnwch i ffrind helpu: Wrth gwrs efallai yr hoffech chi gael rhywun arall i’ch helpu i recordio’ch cân. Efallai y bydd hyn yn haws i chi.
Felly rydych yn barod i recordio
Agorwch eich camera a dewis Fideo ac yna pwyswch Record. (Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi’n dechrau canu ar unwaith. Gallwch chi glipio dechrau a diwedd y fideo yn offer YouTube Studio ar ôl ei uwchlwytho.)
Cyflwynwch eich hun a dywedwch ble rydych chi, pan fyddwch chi’n dechrau recordio.
Fe allech chi hefyd ddweud rhywbeth am yr hyn y mae’r gân yn ei olygu i chi. Ond peidiwch â chymryd gormod o amser i gyrraedd y gân!
Ar ôl i chi orffen, peidiwch ag anghofio pwyso Stop.
2. Uwchlwytho eich cân i YouTube
Os nad oes gennych gyfrif YouTube gallwch anfon eich cân i rowan@span-arts-dev.co.uk a gallwn ei hychwanegu at y map i chi.

Defnyddiwch yr app YouTube ar eich ffôn symudol. (Os nad oes gennych chi eisoes, mae’n rhad ac am ddim i’w osod a’i ddefnyddio.)
Cliciwch ar y botwm + ac yna Upload a Video. (Nid Short)
Rhowch eich enw ac enw’r gân yr oeddech yn canu ar gyfer y teitl..
Rhaid dewis gwelededd Public neu Unlisted er mwyn ychwanegu at y map.
Cliciwch Next ar y dde uchaf.
Cliciwch See Video neu Library. Byddwch yn gweld faint o amser mae’n mynd i gymryd i uwchlwytho.
Unwaith mae’r recordiad wedi uwchlwytho ac rydych yn gallu chwarae yn ôl, mae’n barod i’w rannu ar y map.