Mae Span wedi sefydlu rhwydwaith newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yn Sir Benfro er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth gynyddol fod y celfyddydau yn gallu chwarae rôl anhepgor mewn trawsnewid cymunedau, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad, a gwella iechyd a lles.
Beth rydym eisiau ei wneud:-
- Adeiladu ar, a chryfhau, y rhwydwaith trwy ddenu rhagor o aelodau, ac yn arbennig amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, partneriaid gofal iechyd a chymdeithasol, a grwpiau cymunedol.
- Trwy gyfarfodydd rhwydwaith (ar-lein) rydym eisiau dod â phartneriaid traws-sector ledled Sir Benfro gyfan at ei gilydd i gydweithio er mwyn datblygu dull mwy cyson tuag at y celfyddydau a llesiant yn y sir.
- Gweithredu fel canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth, arbenigedd, canfyddiadau a rhannu data.
- Codi proffil y celfyddydau ac iechyd yn Sir Benfro a darparu llais ar gyfer y sector, gan rannu adnoddau ac effaith.
- Ysgogi cefnogaeth i mewn i’r sir er budd iechyd a lles pobl Sir Benfro.
- Coladu tystiolaeth, rhannu canfyddiadau ac arfer orau er mwyn helpu i greu corff pendant o dystiolaeth am effaith y celfyddydau a llesiant yn Sir Benfro.
“From its inception the Pembrokeshire Arts and Health Network has taken a proactive and strategic stance ensuring the right arts and health professionals are in the room and helping to create a collaborative and joined up approach to tackling health priorities in the County.” Angela Elliott, WAHWN
“WWAMH is very pleased to support this excellent initiative, and we are sure it will help improve the mental health and well being support available and joint working across Pembrokeshire.” Angie Darlington, West Wales Action for Mental Health
Sut i gymryd rhan
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy neu mewn ymuno â’r rhwydwaith cysylltwch â info@span-arts-dev.co.uk am ragor o fanylion.
Rydym yn cyfarfod yn chwarterol gan ddefnyddio Zoom.
Ewch i’n Padlet am ragor o wybodaeth Arts and Health Pembrokeshire Network (padlet.com)