Mae Celfyddydau Span yn falch iawn o gyhoeddi fod Cwmni Theatr y Festival Players yn dychwelyd i leoliad hudolus Lampeter House i ddathlu blwyddyn arall o Shakespeare yn yr awyr agored.
Hanes pedwar o gariadon ifanc sy’n cael eu lapio ym mreichiau breuddwydiol coedwig dan hud a geir yn A Midsummer Night’s Dream. Yma mae ellyllon un cuddio a’r tylwyth teg yn teyrnasu. Wrth i frenin a brenhines y tylwyth teg ymgecru a’i gilydd, caiff eu llwybrau eu croesi gan Bottom, Quince a’u ffrindiau sy’n cyflwyno drama oddi mewn i ddrama. Mae Puck, prif wneuthurwr y drygioni, wrth law i sicrhau bod cwrs gwir gariad yn unrhyw beth ond llyfn, ac o ganlyniad gwelwn gemau ffantasi, cariad a breuddwydion yng nghomedi mwyaf hudolus Shakespeare.
Mae‘r Festival Players, a noddir gan y Fonesig Judi Dench, â 60 mlynedd o brofiad cyfunol o theatr deithiol broffesiynol, ac maent ar fin dod â miri ac anrhefn i’w perfformiadau o gomedi mwyaf lliwgar Shakespeare yr haf hwn. Bellach ar eu 36ain taith flynyddol, mae’r grŵp bywiog o Swydd Gaerloyw yn dod â A Midsummer Night’s Dream i dros 50 o leoliadau o abatai i amffitheatrau ledled y DU a thu hwnt.
Mae cyflwyno Shakespeare yn Lampeter House yn mynd â’r gwaith clasurol y tu allan i seilwaith traddodiadol y theatr ac yn agor y lleoliad hardd ac anarferol hwn i’r cyhoedd ehangach.
Lleolir Lampeter House yn Llanbedr Efelfre ar bwys Arbeth ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cyflwyno Shakespeare yn yr awyr agored gyda theatr fach ar ffurf amffitheatr wedi’i hadeiladu i dir hardd yr ystâd hyfryd hon
Meddai Michael Dyer, Cyfarwyddwr artistig y Festival Players, a chyn-gyfarwyddwr Theatr Awyr Agored Minack, Cernyw:
“A Midsummer Night’s Dream yw’r Shakespeare o ddewis bob amser ar gyfer cynhyrchiad awyr agored gyda’r cyfuniad gwych o ffantasi, tylwyth teg a hwyl hudolus.”
Nod y Festival Players digyffelyb yw gwneud Shakespeare yn hygyrch i bawb. Esbonia Dyer:
“Nid yw ein sioeau byth yn fwy na dwy awr ac rydym bob amser yn ceisio eu gwneud yn berffaith glir – ein nod yw mynd â’r gynulleidfa ar daith a gwneud iddynt deimlo’n rhan o’r cynhyrchiad.”
Bydd cerddoriaeth yn cael ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer y sioe gan y seren cerddoriaeth werin Johnny Coppin (dyn blaen y grŵp roc gwerin o’r saithdegau Decameron). Mae Coppin yn ychwanegu elfen arbennig gyda’i ganeuon a’i ddarnau offerynnol gwreiddiol sy’n cynnwys holl aelodau’r cast.
Bydd y perfformiad yn yr awyr agored ac mae croeso i’r gynulleidfa ddod a’u cadeiriau eu hunain. Bydd dewis eang o luniaeth blasus ar gael wrth y bar a fydd â chyflenwad o fwydydd lleol.
Mae tocynnau ar gael i’w harchebu nawr o span-arts-dev.co.uk, neu ffoniwch 01834 869323.
Gan mai theatr awyr agored yw hon, anogir y gynulleidfa i fod yn barod ar gyfer unrhyw dywydd – bydd y sioe’n mynd yn ei blaen boed yn law neu’n hindda. Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd; argymhellir archebu ymlaen llaw i sicrhau eich lle.
Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae tocynnau am ddim i ofalwyr. Ebostiwch marketing@span-arts-dev.co.uk i roi gwybod i ni am eich anghenion mynediad wrth archebu. Am ragor o wybodaeth am y Festival Players, ewch i : http://thefestivalplayers.co.uk/
Dyddiad: Dydd Gwener 19 Awst 2022
Amser: Lleoliad ar agor 6pm, sioe’n cychwyn 7pm
Pris: Oedolion £15.00, Consesiynau £12.00, Plant £6
Lleoliad: Lampeter House, Llanbedr Efelfre, ger Arberth