Mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro, mae Celfyddydau SPAN yn falch iawn o gyflwyno Ensemble John S. Davies yn ein Cyngerdd Adfent poblogaidd eleni am 3 o’r gloch Dydd Sul y 27ain o Dachwedd yng Nghapel Pisga, Llandysilio, SA66 7TF.
Rydym yn falch o groesawu’r adnabyddus John S. Davies a’i ensemble i naws atmosfferig golau cannwyll yng Nghapel Pisga. Bydd y grŵp talentog o gantorion proffesiynol, aelodau o gorau eglwysi cadeiriol, a myfyrwyr cerdd wedi’u dewis gan John Davies ei hun yn cyflwyno awr lawen o gerddoriaeth gorawl ddwyieithog er mwyn croesawu dechrau’r Adfent.
Wedi’u ffurfio yn 1978, mae Cantorion John S. Davies yn perfformio’n rheolaidd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, wedi teithio gyda’r clasuron mawr a gweithiau newydd gwych – y mwyafrif yn rhai di-gyfeiliant- o Lundain i Rufain, ac wedi perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru.
Mae John yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bu’n fyfyriwr. Yn ei swyddogaeth fel Sefydlydd a Chyfarwyddwr Celfyddydol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun (1970-2006) cafodd ei anrhydeddu â’r MBE ym 1997. Mae hefyd wedi derbyn nifer o wobrwyon eraill am ei waith ym myd cerddoriaeth yng Nghymru.
Drysau’n agor am 2.30 o’r gloch. Cyngerdd yn cychwyn am 3 o’r gloch.
Dydd Sul y 27ain o Dachwedd 2022.
Tocynnau: Pris lawn £10 / Consesiwn £8. Mae tocynnau ar gael i’w harchebu ar-lein yma, neu drwy’r swyddfa docynnau ar 01834 869323.