Mae’r prosiect hwn bellach wedi gorffen. Gallwch wrando i’r faled gyfan yma!
Ar Ddydd Sul Hydref 3ydd gwahoddir cantorion i ymuno a chôr unnos (Scratch Choir) arbennig er mwyn canu a recordio fersiwn o’r gân Y Tangnefeddwyr – gosodiad o gerdd adnabyddus Waldo Williams. Arweinydd y côr, sy’n dwyn yr enw Côr y Cewri ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn, fydd Rhian Medi Jones a’r cyfeilydd fydd Rhidian Evans.
Mae’r digwyddiad yn cael ei recordio ar gyfer prosiect sydd wedi bod yn cymryd lle dros yr haf, sef Cân y Ffordd Euraidd. Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd yn cynnig agwedd celfyddydol ar dreftadaeth Ein Cymdogaeth Werin Preseli gyda’r bwriad o greu ‘baled radio’ mewn ymateb i ardal Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Bydd y faled yn plethu llais, sain a chân er mwyn ymgorffori cofnod llafar o le unigryw.
Y Ffordd Euraidd yw’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt. Mae’r prosiect hyd at hyn wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau. Roedd y teithiau cerdded gweithdy yma yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr a wahoddir, cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau.
Mae gwaith a gwaddol Waldo Williams i’r ardal wedi bod yn amlwg wrth i weithdai prosiect Cân Y Ffordd Euraidd mynd yn eu blaen. Ysgrifennodd Waldo’r gerdd Y Tangnefeddwyr mewn ymateb i’r ail rhyfel byd ac yn cofnodi atgofion o ofal ei rieni wrth iddo weld Abertawe’n fflam ar ôl noson o fomio. Mae’r gerdd yn alwad am heddwch gan y bardd oedd hefyd yn Grynwr a rhoddodd ei ddawn ysgrifennu at wasanaeth yr ymgyrch i gadw mynyddoedd y Preselau’n rhydd o bresenoldeb militaraidd.
Daw’r syniad o ddod a chôr arbennig at ei gilydd i recordio’r gân Tangnefeddwyr yn sgil dyfodiad y cynhyrchydd Paul Evans i fod ynghlwm a’r prosiect wrth iddo ddechrau pori trwy a golygu’r sain oedd yn deillio o’r gweithdai a dod i adnabod treftadaeth yr ardal. Mae Paul yn gynhyrchydd gwobrwyedig o raglenni nodwedd i’r radio, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gyda hanes arbennig o wneud rhaglenni dogfen am gerddoriaeth.
Mae diwrnod Waldo, sy’n ddathliad o waith a bywyd y bardd a heddychwr, yn cael ei gynnal ar y 30ain o Fedi. Bydd Côr y Cewri yn cwrdd y penwythnos wedyn ar 3ydd Hydref am 2.00 o’r gloch yn Neuadd y Dderwen, Rhos-y-gilwen i ddysgu’r gân ac ar ddiwedd y prynhawn bydd y cân yn cael ei recordio. Bydd y digwyddiad yn gorffen am 6yh. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y prynhawn.
Mae’r digwyddiad côr unnos Côr y Cewri yn agored i unrhyw un ond rhaid archebu lle ymlaen llaw er mwyn gwireddu dyletswyddau diogelwch ar gyfer y digwyddiad. Os hoffech gymryd rhan yn y fenter unigryw hon cysylltwch â Rowan O’Neill, Cynhyrchydd Cymunedol Celfyddydau Span rowan@span-arts-dev.co.uk er mwyn cael copi o’r gerddoriaeth. Cafodd y gosodiad o’r gerdd Y Tangnefeddwyr ei ysgrifennu gan Eric Jones ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002. Bydd traciau ymarfer ar gael i bob rhan S, A, T, B hefyd.
Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd yn cael ei chyflawni gan Span Arts mewn partneriaeth gyda PLANED a Menter Iaith Sir Benfro fel rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Caiff y faled derfynol ei lansio yn Nhafarn Sinc ar ddechrau mis Tachwedd.
Rhian Medi a Wyn Owens yn rhannu atgofion am Waldo Williams yng ngweithdy ar y Ffordd Euraidd
Carreg Goffa Waldo Williams