Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig
CYFARWYDDWR CELFYDDYDAU SPAN
Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau?
Ydych chi eisiau’r cyfle i arwain sefydliad cyffrous a bywiog?
Ydych chi’n feddyliwr creadigol gyda dawn drefniadaethol, dealltwriaeth ariannol a sgiliau da wrth ymdrin â phobl?
Mae Celfyddydau Span, elusen gelfyddydau cymunedol a sefydlwyd ers 30 mlynedd, ac a leolir yn Arberth, Sir Benfro, yn chwilio am gyfarwyddwr newydd i gymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros weinyddu’r sefydliad, ei ddigwyddiadau a’i brosiectau, o ddydd i ddydd. Yn gweithio gyda chorff ymroddedig o Ymddiriedolwyr, byddwch yn rheoli tîm bach o weithwyr a phrosiectau, gan sicrhau cynaliadwyedd hir-dymor a rhaglen amrywiol o brosiectau a digwyddiadau byw a digidol yn y celfyddydau.
Swydd ran-amser am 25 awr yr wythnos yw hon. Cyflog hyd at £30,000 y flwyddyn pro rata yn dibynnu ar brofiad.
Am ragor o wybodaeth/pecyn ymgeisio, ewch i’n gwefan www.span-arts-dev.co.uk <http://www.span-arts-dev.co.uk> neu e-bostiwch cathyfronfarm@gmail.com <mailto:cathyfronfarm@gmail.com>
Dyddiad cau: Dydd Llun Medi 13eg
Cyfweliadau: Dydd Mawrth Medi 21ain