Map digidol arlein yw Map Digi Penfro sy’n caniatáu i bobl gofnodi gwybodaeth sy’n bwysig iddyn nhw am leoliadau lle maen nhw’n byw neu’n teithio drwyddynt. Gellir cofnodi gwybodaeth ar ffurf testun neu ddelwedd gan gynnwys ffotograffau, lluniau, recordiadau sain- hyd yn oed ffilmiau byrion.
Datblygwyd y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Span Digidol gan gychwyn gyda phenwythnos dwys yn archwilio Garn Fawr a’r ardal gyfagos yng Ngorffennaf 2019. Dilynwyd y gwaith yma gyda diwrnodau gweithdy yn Arberth, Aber Llydan a Trefdraeth.
Ar yr 28ain o Fawrth roeddwn yn gobeithio cynnal gweithdy yn Llanusyllt. Oherwydd y sefyllfa gyfredol gyda’r pandemig Covid-19 ni fydd y gweithdy yma’n cael ei gynnal.
Fodd bynnag mae’r map yn aros ar-lein ac mae’n dal yn bosib ychwanegu ato. Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae ‘na gyfarwyddiadau ar y safle i’w dilyn.
Os ydych yn gaeth i gartref ar hyn o bryd ac yn edrych am rywbeth i wneud, beth am edrych ar y map? Mae ‘na ddigonedd o bethau diddorol i’w clywed ac i’w gweld. Falle fod gennych eich safleoedd o ddiddordeb eich hunain i ychwanegu. Byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr os byddech yn ychwanegu rhywbeth at y map.
Dilynwch y linc yma i weld y map:
https://deep-map.azurewebsites.net/
Am fwy o wybodaeth am y prosiect cymerwch gip ar y ffilm yma a grëwyd ar ôl ein penwythnos mapio cyntaf:
Datblygwyd Map Digi Penfro drwy brosiect Span Digidol sydd yn cael ei ariannu gan LEADER a Chyngor Celfyddydau Cymru ac sydd yn archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg ddigidol men modd creadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac arwahaniad cymdeithasol.