Pinio eich Cân i Fap Pererin Wyf
Cam wrth gam
Yn gyntaf, uwchlwytho eich cân i YouTube. Os nad oes gennych gyfrif YouTube gallwch anfon eich cân i rowan@span-arts-dev.co.uk a gallwn ei hychwanegu at y map i chi.
Ewch i tudalen prosiect Pererin Wyf ar wefan Span Arts, a chliciwch ‘Cliciwch yma i weld map y prosiect’. |
Cliciwch Parhau i gau’r sgrin agoriadol. | |
Ciciwch Cyfrannu yng nghornel chwith uchaf y map. Cliciwch i dderbyn y Telerau ac Amodau, ar ôl i chi eu darllen. |
|
Mewngofnodwch gan ddefnyddio naill ai eich cyfrif Microsoft neu Google. | |
Llusgwch y map i osod y saeth darged goch yn y lleoliad rydych chi am binio’ch recordiad. | |
I chwyddo i mewn neu allan gallwch ddefnyddio’r botymau + a – yng nghornel dde uchaf y map. |
Mewn ffenestr neu tab arall, copïwch y URL o’ch fideo YouTube. Defnyddiwch y ddolen Share o dan eich fideo YouTube i wneud hyn. |
Yn ôl ar y map, cliciwch ar y botwm Ychwanegu Fideo yn rhan chwith uchaf y map. |
Gludwch yr URL yn y blwch. Cliciwch Done. |
Yn y blwch golygu, ychwanegwch fwy o wybodaeth am eich recordiad. |
Bydd eich recordiad yn ymddangos ar y map. I’w weld, cliciwch y lle, neu tapiwch ddwywaith. |