Theatr Soffa yn cyflwyno Dan y Wenallt Dan Glo!
Ym mis Mai, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, mae Celfyddydau Span mewn cydweithrediad a Menter Iaith Sir Benfro a Cered- Menter iaith Ceredigion yn cychwyn ar fenter ddigidol newydd gyffrous. Gan alw ar dalentau niferus cymunedau Gogledd Sir Benfro a De Sir Ceredigion maent wedi dechrau gweithio tuag at berfformiad ar-lein o Dan y Wenallt sef “Dan y Wenallt Dan Glo” trwy feddalwedd fideo-gynadledda ar-lein. Mae’r fenter wedi datblygu trwy brosiect Digidol Span sydd wedi bod yn treialu ffyrdd y gellir defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i helpu gyda materion fel lles cymdeithasol ac arwahanrwydd gwledig. Ni allai’r prosiect fod yn fwy amserol o ystyried y cyfyngiadau parhaus ar ein bywydau oherwydd pandemig Covid-19 wrth i ni barhau i gael ein cynghori i #ArhosaGartref Er efallai na fyddwn yn gallu mynd o gwmpas ein busnes beunyddiol arferol, gallwn ddal i freuddwydio. Ac wrth feddwl am ba ddrama i drio perfformio o dan yr amgylchiadau yma roedd Dan y Wenallt yn ymddangos fel dewis da i roi cynnig arno gyda chyswllt amlwg gyda Sir Benfro a Cheredigion. Mae Dan y Wenallt, addasiad T James Jones o waith adnabyddus Dylan Thomas, wedi’i leoli yn nhref glan môr ffuglennol Llareggub – […]